28 Gweddïwch ar yr ARGLWYDD, oherwydd cawsom ddigon ar y taranau hyn a'r cenllysg; fe'ch rhyddhaf, ac nid oes rhaid i chwi aros yma'n hwy.”
29 Dywedodd Moses wrtho, “Pan af allan o'r ddinas, estynnaf fy nwylo at yr ARGLWYDD; bydd diwedd ar y taranau, ac ni bydd rhagor o genllysg, er mwyn iti wybod mai eiddo'r ARGLWYDD yw'r ddaear.
30 Ond gwn nad wyt ti na'th weision eto yn parchu'r ARGLWYDD Dduw.”
31 (Yr oedd y llin a'r haidd wedi eu difetha, oherwydd bod yr haidd wedi hedeg a'r llin wedi hadu.
32 Ond ni ddifethwyd y gwenith na'r ceirch, am eu bod yn fwy diweddar yn blaguro.)
33 Aeth Moses allan o'r ddinas, o ŵydd Pharo, ac estynnodd ei ddwylo at yr ARGLWYDD; bu diwedd ar y taranau a'r cenllysg, ac ni ddaeth rhagor o law ar y ddaear.
34 Ond pan welodd Pharo fod y glaw, y cenllysg a'r taranau wedi peidio, fe bechodd eto, a chaledodd ei galon, ef a'i weision.