4 Ond bydd yr ARGLWYDD yn gwahaniaethu rhwng anifeiliaid Israel a rhai'r Eifftiaid, fel na bydd farw dim sy'n eiddo i'r Israeliaid.
5 Pennodd yr ARGLWYDD amser arbennig, a dweud, Yfory y bydd yr ARGLWYDD yn gwneud hyn yn y wlad.’ ”
6 A thrannoeth, fe'i gwnaeth; bu farw holl anifeiliaid yr Eifftiaid, ond ni bu farw yr un o anifeiliaid yr Israeliaid.
7 Pan anfonodd Pharo, gwelodd nad oedd yr un o anifeiliaid yr Israeliaid wedi marw. Ond yr oedd calon Pharo wedi caledu, ac nid oedd am ryddhau'r bobl.
8 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, “Cymerwch ddyrneidiau o huddygl o ffwrn, a bydded i Moses ei daflu i'r awyr yng ngŵydd Pharo.
9 Fe dry'n llwch mân dros holl dir yr Aifft, gan achosi cornwydydd poenus ar ddyn ac anifail trwy holl wlad yr Aifft.”
10 Felly cymerasant yr huddygl o'r ffwrn, a sefyll o flaen Pharo, a thaflodd Moses y lludw i'r awyr. Achosodd gornwydydd poenus ar ddyn ac anifail.