17 Cymerodd Moses ac Aaron y dynion hyn y rhoddwyd eu henwau,
18 ac ar y dydd cyntaf o'r ail fis casglwyd ynghyd yr holl gynulliad. Rhestrwyd y bobl yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd, a rhifwyd fesul un bawb oedd yn ugain oed a throsodd.
19 Felly, cyfrifodd Moses hwy yn anialwch Sinai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
20 O dylwyth Reuben, cyntafanedig Israel, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
21 Nifer llwyth Reuben oedd pedwar deg chwech o filoedd a phum cant.
22 O dylwyth Simeon, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.
23 Nifer llwyth Simeon oedd pum deg naw o filoedd a thri chant.