Numeri 9 BCN

Yr Ail Basg

1 Yn y mis cyntaf o'r ail flwyddyn wedi iddynt ddod allan o wlad yr Aifft, llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yn anialwch Sinai, a dweud,

2 “Bydded i bobl Israel gadw'r Pasg ar yr adeg benodedig.

3 Cadwch ef yn y cyfnos ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis hwn; cadwch y Pasg ar yr adeg benodedig gyda'r holl ddeddfau a'r defodau sy'n gysylltiedig ag ef.”

4 Felly dywedodd Moses wrth bobl Israel am gadw'r Pasg,

5 a gwnaethant hynny yn anialwch Sinai yn y cyfnos ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf. Gwnaeth pobl Israel yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

6 Ond ni allai rhai gadw'r Pasg ar y diwrnod penodedig, am eu bod wedi eu halogi eu hunain trwy gyffwrdd â chorff marw; felly daethant at Moses ac Aaron y dydd hwnnw,

7 a dweud, “Yr ydym wedi ein halogi ein hunain trwy gyffwrdd â chorff marw; pam y gwaherddir ni rhag ymuno â phobl Israel i offrymu i'r ARGLWYDD ar yr adeg benodedig?”

8 Atebodd Moses hwy, “Arhoswch nes imi glywed beth y mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn amdanoch.”

9 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

10 “Dywed wrth bobl Israel, ‘Os bydd unrhyw un ohonoch chwi neu o'ch disgynyddion yn ei halogi ei hun trwy gyffwrdd â chorff marw, neu os bydd ar daith bell, y mae er hynny i gadw'r Pasg i'r ARGLWYDD.

11 Cadwant ef yn y cyfnos ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r ail fis, ac y maent i fwyta'r Pasg gyda bara croyw a llysiau chwerw.

12 Nid ydynt i adael dim ohono'n weddill hyd y bore, na thorri asgwrn ohono; y maent i gadw'r holl ddeddf ynglŷn â'r Pasg.

13 Ond os bydd rhywun yn lân, a heb fod ar daith, ac eto'n gwrthod cadw'r Pasg, bydd yn cael ei dorri ymaith o blith ei bobl, am nad offrymodd i'r ARGLWYDD ar yr adeg benodedig, a bydd yn dioddef am ei bechod.

14 Os bydd dieithryn yn aros yn eich plith, ac yn dymuno cadw Pasg i'r ARGLWYDD, caiff wneud hynny yn ôl y ddeddf a'r ddefod sy'n gysylltiedig ag ef; yr un ddeddf fydd i'r dieithryn ac i'r brodor.’ ”

Y Cwmwl dros Babell y Cyfarfod

15 Ar y dydd y codwyd y tabernacl daeth cwmwl a gorchuddio tabernacl pabell y cyfarfod; ymddangosai fel tân drosto, o'r hwyr hyd y bore.

16 Ac felly y parhaodd; yr oedd cwmwl yn ei orchuddio, ac yn y nos ymddangosai fel tân drosto.

17 Pan godai'r cwmwl oddi ar y babell, byddai pobl Israel yn cychwyn ar eu taith, a lle bynnag yr arhosai'r cwmwl, byddent yn gwersyllu.

18 Ar orchymyn yr ARGLWYDD byddai pobl Israel yn cychwyn ar eu taith, ac ar ei orchymyn ef byddent yn gwersyllu; pryd bynnag y byddai'r cwmwl yn aros dros y tabernacl, byddent yn aros yn y gwersyll.

19 Hyd yn oed pan fyddai'r cwmwl yn aros dros y tabernacl am lawer o ddyddiau, byddai pobl Israel yn cadw dymuniad yr ARGLWYDD, ac ni fyddent yn cychwyn ar eu taith.

20 Weithiau byddai'r cwmwl yn aros dros y tabernacl am ychydig ddyddiau, a byddent hwythau'n aros yn y gwersyll yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD, ac ar ei orchymyn ef byddent yn cychwyn ar eu taith.

21 Dro arall, byddai'r cwmwl yno o'r hwyr hyd y bore yn unig, ac yna pan godai, byddent yn cychwyn allan, ac os byddai yno trwy'r dydd a'r nos, ac yna'n codi, byddent yn cychwyn allan.

22 Os byddai'r cwmwl yn aros dros y tabernacl am ddeuddydd, neu fis neu flwyddyn, byddai pobl Israel yn aros yn eu pebyll heb gychwyn ar eu taith; ond pan godai'r cwmwl, byddent yn cychwyn.

23 Ar orchymyn yr ARGLWYDD byddent yn gwersyllu, ac ar ei orchymyn ef byddent yn cychwyn ar eu taith; yr oeddent yn cadw dymuniad yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36