Numeri 21 BCN

Buddugoliaeth dros Ganaan

1 Pan glywodd brenin Arad, y Canaanead oedd yn byw yn y Negef, fod yr Israeliaid yn dod ar hyd ffordd Atharaim, ymosododd arnynt a chymryd rhai ohonynt yn garcharorion.

2 Gwnaeth Israel adduned i'r ARGLWYDD, a dweud, “Os rhoddi di'r bobl hyn yn ein dwylo, yna fe ddinistriwn eu dinasoedd yn llwyr.”

3 Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar gri Israel, a rhoddodd y Canaaneaid yn eu dwylo; dinistriodd yr Israeliaid hwy a'u dinasoedd, ac felly y galwyd y lle yn Horma.

Y Sarff Bres

4 Yna aeth yr Israeliaid o Fynydd Hor ar hyd ffordd y Môr Coch, ac o amgylch gwlad Edom. Dechreuodd y bobl fod yn anniddig ar y daith,

5 a siarad yn erbyn Duw a Moses, a dweud, “Pam y daethoch â ni o'r Aifft i farw yn yr anialwch? Nid oes yma na bwyd na diod, ac y mae'n gas gennym y bwyd gwael hwn.”

6 Felly anfonodd yr ARGLWYDD seirff gwenwynig ymysg y bobl, a bu nifer o'r Israeliaid farw wedi iddynt gael eu brathu ganddynt.

7 Yna daeth y bobl at Moses, a dweud, “Yr ydym wedi pechu trwy siarad yn erbyn yr ARGLWYDD ac yn dy erbyn di; gweddïa ar i'r ARGLWYDD yrru'r seirff ymaith oddi wrthym.” Felly gweddïodd Moses ar ran y bobl,

8 a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Gwna sarff a'i gosod ar bolyn, a bydd pawb a frathwyd, o edrych arni, yn cael byw.”

9 Felly gwnaeth Moses sarff bres, a'i gosod ar bolyn, a phan fyddai rhywun yn cael ei frathu gan sarff, byddai'n edrych ar y sarff bres, ac yn byw.

Symud o Fynydd Hor i Ddyffryn ger Pisga

10 Aeth yr Israeliaid ymlaen, a gwersyllu yn Oboth,

11 a mynd oddi yno a gwersyllu yn Ije-abarim, yn yr anialwch sydd gyferbyn â Moab, tua chodiad haul.

12 Wedi cychwyn oddi yno, a gwersyllu yn nyffryn Sared,

13 aethant ymlaen, a gwersyllu yr ochr draw i Arnon, yn yr anialwch sy'n ymestyn o derfyn yr Amoriaid; yr oedd Arnon ar y ffin rhwng Moab a'r Amoriaid.

14 Dyna pam y mae Llyfr Rhyfeloedd yr ARGLWYDD yn sôn am“Waheb yn Suffa a'r dyffrynnoedd,

15 Arnon a llechweddau'r dyffrynnoeddsy'n ymestyn at safle Arac yn gorffwys ar derfyn Moab.”

16 Oddi yno aethant i Beer, y ffynnon y soniodd yr ARGLWYDD amdani wrth Moses, pan ddywedodd, “Cynnull y bobl ynghyd, er mwyn i mi roi dŵr iddynt.”

17 Yna canodd Israel y gân hon:“Tardda, ffynnon! Canwch iddi—

18 y ffynnon a gloddiodd y tywysogion,ac a agorodd penaethiaid y boblâ'u gwiail a'u ffyn.”Aethant ymlaen o'r anialwch i Mattana,

19 ac oddi yno i Nahaliel; yna i Bamoth,

20 ac ymlaen i'r dyffryn sydd yng ngwlad Moab, ger copa Pisga, sy'n edrych i lawr dros yr anialdir.

Goruchafiaeth ar Sihon ac Og

21 Yna anfonodd Israel genhadon at Sihon brenin yr Amoriaid i ddweud,

22 “Gad inni fynd trwy dy wlad; nid ydym am droi i mewn i'th gaeau na'th winllannoedd, nac yfed dŵr o'r ffynhonnau; fe gadwn at briffordd y brenin, nes inni fynd trwy dy diriogaeth.”

23 Ond nid oedd Sihon am adael i Israel fynd trwy ei diriogaeth; felly cynullodd ei holl fyddin, ac aeth allan i'r anialwch yn erbyn Israel, a phan ddaeth i Jahas, ymosododd arnynt.

24 Ond lladdodd yr Israeliaid ef â min y cleddyf, a chymryd meddiant o'i dir, o Arnon i Jabboc, a hyd at derfyn yr Amoriaid, er mor gadarn oedd hwnnw.

25 Meddiannodd Israel y dinasoedd hyn i gyd, ac ymsefydlu yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, ac yn Hesbon a'i holl bentrefi.

26 Hesbon oedd dinas Sihon brenin yr Amoriaid; yr oedd wedi ymladd yn erbyn brenin blaenorol Moab, a chipio'i holl dir hyd at Arnon.

27 Dyna pam y canodd y beirdd:“Dewch i Hesbon a'i hadeiladu!Gwnewch yn gadarn ddinas Sihon!

28 Oherwydd aeth tân allan o Hesbon,a fflam o ddinas Sihon,a difa Ar yn Moaba pherchnogion mynydd-dir Arnon.

29 Gwae di, Moab!Darfu amdanoch, chwi bobl Cemos!Gwnaeth ei feibion yn ffoaduriaid,a'i ferched yn gaethioni Sihon brenin yr Amoriaid.

30 Saethasom hwy, a darfu amdanynto Hesbon hyd Dibon,ac yr ydym wedi eu dymchwelo Noffa hyd Medeba.”

31 Felly y daeth Israel i fyw yng ngwlad yr Amoriaid.

32 Anfonodd Moses rai i ysbïo Jaser cyn meddiannu eu pentrefi, a gyrru allan yr Amoriaid a oedd yno.

33 Yna troesant a mynd ar hyd ffordd Basan; ond daeth Og brenin Basan a'i holl fyddin allan yn eu herbyn, ac ymladd â hwy yn Edrei.

34 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Paid â'i ofni, oherwydd yr wyf wedi ei roi ef a'i holl fyddin a'i dir yn dy law; gwna iddo ef yr hyn a wnaethost i Sihon brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Hesbon.”

35 Felly lladdasant ef, ei feibion a'i holl fyddin, heb adael un yn weddill; yna meddianasant ei dir.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36