Numeri 20 BCN

Israel yn Cades

1 Yn y mis cyntaf daeth holl gynulleidfa pobl Israel i anialwch Sin, ac arhosodd y bobl yn Cades; yno y bu Miriam farw, ac yno y claddwyd hi.

2 Nid oedd dŵr ar gyfer y gynulleidfa, ac felly ymgynullasant yn erbyn Moses ac Aaron.

3 Dechreuasant ymryson â Moses, a dweud, “O na fyddem ninnau wedi marw pan fu farw ein cymrodyr gerbron yr ARGLWYDD!

4 Pam y daethost â chynulleidfa'r ARGLWYDD i'r anialwch hwn i farw gyda'n hanifeiliaid?

5 Pam y daethost â ni allan o'r Aifft a'n harwain i'r lle drwg hwn? Nid oes yma rawn, na ffigys, na gwinwydd, na phomgranadau, na hyd yn oed ddŵr i'w yfed.”

6 Yna aeth Moses ac Aaron o ŵydd y gynulleidfa at ddrws pabell y cyfarfod, ac ymgrymu. Ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD iddynt,

7 a dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

8 “Cymer y wialen, a chynnull y gynulleidfa gyda'th frawd Aaron, ac yn eu gŵydd dywed wrth y graig am ddiferu dŵr; yna byddi'n tynnu dŵr o'r graig ar eu cyfer ac yn ei roi i'r gynulleidfa a'i hanifeiliaid i'w yfed.”

9 Felly cymerodd Moses y wialen oedd o flaen yr ARGLWYDD, fel y gorchmynnwyd iddo.

10 Cynullodd Moses ac Aaron y gynulleidfa o flaen y graig, a dweud wrthynt, “Gwrandewch, yn awr, chwi wrthryfelwyr; a ydych am inni dynnu dŵr i chwi allan o'r graig hon?”

11 Yna cododd Moses ei law, ac wedi iddo daro'r graig ddwywaith â'i wialen, daeth llawer o ddŵr allan, a chafodd y gynulleidfa a'u hanifeiliaid yfed ohono.

12 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, “Am i chwi beidio â chredu ynof, na'm sancteiddio yng ngŵydd pobl Israel, ni fyddwch yn dod â'r gynulleidfa hon i mewn i'r wlad a roddais iddynt.”

13 Dyma ddyfroedd Meriba, lle y bu'r Israeliaid yn ymryson â'r ARGLWYDD, a lle y datguddiodd ei hun yn sanctaidd iddynt.

Brenin Edom yn Rhwystro Israel

14 Anfonodd Moses genhadon o Cades at frenin Edom i ddweud, “Dyma a ddywed dy frawd Israel: ‘Fe wyddost am yr holl helbulon a ddaeth i'n rhan,

15 sut yr aeth ein hynafiaid i lawr i'r Aifft, sut y buom yn byw yno am amser maith, a sut y cawsom ni a'n hynafiaid ein cam-drin gan yr Eifftiaid;

16 ond pan waeddasom ar yr ARGLWYDD, fe glywodd ein cri, ac anfonodd angel i'n harwain allan o'r Aifft.

17 A dyma ni yn Cades, dinas sydd yn ymyl dy diriogaeth di. Yn awr, gad inni fynd trwy dy wlad; nid ydym am fynd trwy dy gaeau a'th winllannoedd, nac am yfed dŵr o'r ffynhonnau, ond fe gadwn at briffordd y brenin, heb droi i'r dde na'r chwith, nes inni fynd trwy dy diriogaeth.’ ”

18 Ond dywedodd Edom wrtho, “Ni chei fynd trwodd, neu fe ddof yn dy erbyn â chleddyf.”

19 Dywedodd pobl Israel wrtho, “Nid ydym am fynd ond ar hyd y briffordd, ac os byddwn ni a'n hanifeiliaid yn yfed dy ddŵr, fe dalwn amdano; ni wnawn ddim ond cerdded trwodd.”

20 Ond dywedodd ef, “Ni chei di ddim mynd.” Daeth Edom allan yn eu herbyn gyda byddin fawr o ddynion,

21 a gwrthododd adael i Israel fynd trwy ei dir; felly fe drodd Israel ymaith oddi wrtho.

Marw Aaron

22 Aeth holl gynulleidfa pobl Israel o Cades, a chyrraedd Mynydd Hor.

23 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron ym Mynydd Hor, a oedd ar derfyn gwlad Edom,

24 “Cesglir Aaron at ei bobl; ni chaiff fynd i mewn i'r wlad a roddais i bobl Israel, am i chwi wrthryfela yn erbyn fy ngorchymyn wrth ddyfroedd Meriba.

25 Felly tyrd ag Aaron a'i fab Eleasar i fyny Mynydd Hor,

26 a chymer y wisg oddi am Aaron a'i rhoi am ei fab Eleasar; yna bydd Aaron yn cael ei gasglu at ei bobl, ac yn marw yno.”

27 Gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, ac aethant i fyny Mynydd Hor, a'r holl gynulleidfa yn eu gwylio.

28 Cymerodd Moses y wisg oddi am Aaron a'i rhoi am ei fab Eleasar, a bu Aaron farw yno ar ben y mynydd.

29 Yna daeth Moses ac Eleasar i lawr o ben y mynydd, a phan sylweddolodd yr holl gynulleidfa fod Aaron wedi marw, wylodd holl dŷ Israel amdano am ddeg diwrnod ar hugain.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36