Numeri 36 BCN

Etifeddiaeth Merched Seloffehad

1 Daeth pennau-teuluoedd tylwythau meibion Gilead fab Machir, fab Manasse, un o dylwythau meibion Joseff, ymlaen a siarad â Moses a'r arweinwyr, sef pennau-teuluoedd pobl Israel,

2 a dweud, “Gorchmynnodd yr ARGLWYDD iti roi'r wlad yn etifeddiaeth i bobl Israel trwy'r coelbren, a rhoi etifeddiaeth ein brawd Seloffehad i'w ferched.

3 Yn awr, os priodant hwy â dynion o lwythau eraill ymysg yr Israeliaid, yna bydd eu hetifeddiaeth yn cael ei cholli o lwyth ein hynafiaid, ac yn cael ei throsglwyddo at etifeddiaeth y llwythau y priodwyd hwy iddynt, a bydd ein hetifeddiaeth ni yn dlotach o'r herwydd.

4 Pan ddaw jwbili pobl Israel, fe drosglwyddir eu hetifeddiaeth hwy at etifeddiaeth y llwythau y priodwyd hwy iddynt; felly, bydd eu hetifeddiaeth yn cael ei cholli oddi wrth etifeddiaeth llwyth ein hynafiaid.”

5 Gorchmynnodd Moses i bobl Israel yn ôl gair yr ARGLWYDD, a dweud, “Y mae cais llwyth meibion Joseff yn un cyfiawn.

6 Dyma orchymyn yr ARGLWYDD ynglŷn â merched Seloffehad: cânt briodi â phwy bynnag a ddymunant, cyn belled â bod eu gwŷr yn perthyn i dylwyth eu tad.

7 Nid yw etifeddiaeth pobl Israel i'w throsglwyddo o'r naill lwyth i'r llall; yn hytrach, glyned pob un o bobl Israel wrth etifeddiaeth llwyth ei hynafiaid.

8 Y mae pob merch sy'n meddu ar etifeddiaeth, ni waeth i ba un o lwythau Israel y perthyn, i briodi â dyn o dylwyth ei thad, fel y caiff pob un o bobl Israel ran yn etifeddiaeth ei hynafiaid.

9 Felly, ni fydd yr etifeddiaeth yn cael ei throsglwyddo o'r naill lwyth i'r llall, ond bydd pob un o lwythau pobl Israel yn glynu wrth ei etifeddiaeth ei hun.”

10 Gwnaeth merched Seloffehad fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses,

11 ac fe briododd Mala, Tirsa, Hogla, Milca a Noa, merched Seloffehad, â meibion brodyr eu tad.

12 Felly daethant yn wragedd i wŷr o dylwyth meibion Manasse fab Joseff, ac arhosodd eu hetifeddiaeth gyda thylwyth eu tad.

13 Dyma'r deddfau a'r gorchmynion a roddodd yr ARGLWYDD trwy Moses i bobl Israel yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36