Numeri 33 BCN

O'r Aifft i Moab

1 Dyma'r siwrnai a gymerodd pobl Israel pan ddaethant allan o wlad yr Aifft yn eu lluoedd dan arweiniad Moses ac Aaron.

2 Croniclodd Moses enwau'r camau ar y siwrnai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. Dyma'r camau ar eu siwrnai.

3 Cychwynnodd yr Israeliaid o Rameses ar y pymthegfed dydd o'r mis cyntaf, sef y diwrnod ar ôl y Pasg, ac aethant allan yn fuddugoliaethus yng ngŵydd yr holl Eifftiaid,

4 tra oeddent hwy'n claddu pob cyntafanedig a laddwyd gan yr ARGLWYDD; fe gyhoeddodd yr ARGLWYDD farn ar eu duwiau hefyd.

5 Aeth yr Israeliaid o Rameses, a gwersyllu yn Succoth.

6 Aethant o Succoth a gwersyllu yn Etham, sydd ar gwr yr anialwch.

7 Aethant o Etham a throi'n ôl i Pihahiroth, sydd i'r dwyrain o Baal-seffon, a gwersyllu o flaen Migdol.

8 Aethant o Pihahiroth a mynd trwy ganol y môr i'r anialwch, a buont yn cerdded am dridiau yn anialwch Etham cyn gwersyllu yn Mara.

9 Aethant o Mara a chyrraedd Elim, lle yr oedd deuddeg o ffynhonnau dŵr a saith deg o balmwydd, a buont yn gwersyllu yno.

10 Aethant o Elim a gwersyllu wrth y Môr Coch.

11 Aethant o'r Môr Coch a gwersyllu yn anialwch Sin.

12 Aethant o anialwch Sin a gwersyllu yn Doffca.

13 Aethant o Doffca a gwersyllu yn Alus.

14 Aethant o Alus a gwersyllu yn Reffidim, lle nad oedd dŵr i'r bobl i'w yfed.

15 Aethant o Reffidim a gwersyllu yn anialwch Sinai.

16 Aethant o anialwch Sinai a gwersyllu yn Cibroth-hattaafa.

17 Aethant o Cibroth-hattaafa a gwersyllu yn Haseroth.

18 Aethant o Haseroth a gwersyllu yn Rithma.

19 Aethant o Rithma a gwersyllu yn Rimmon-pares.

20 Aethant o Rimmon-pares a gwersyllu yn Libna.

21 Aethant o Libna a gwersyllu ym Mynydd Rissa.

22 Aethant o Rissa a gwersyllu yn Cehelatha.

23 Aethant o Cehelatha a gwersyllu ym Mynydd Saffer.

24 Aethant o Fynydd Saffer a gwersyllu yn Harada.

25 Aethant o Harada a gwersyllu yn Maceloth.

26 Aethant o Maceloth a gwersyllu yn Tahath.

27 Aethant o Tahath a gwersyllu yn Tara.

28 Aethant o Tara a gwersyllu yn Mithca.

29 Aethant o Mithca a gwersyllu yn Hasmona.

30 Aethant o Hasmona a gwersyllu yn Moseroth.

31 Aethant o Moseroth a gwersyllu yn Bene-jaacan.

32 Aethant o Bene-jaacan a gwersyllu yn Hor-haggidgad.

33 Aethant o Hor-haggidgad a gwersyllu yn Jotbatha.

34 Aethant o Jotbatha a gwersyllu yn Abrona.

35 Aethant o Abrona a gwersyllu yn Esion-geber.

36 Aethant o Esion-geber a gwersyllu yn anialwch Sin, sef Cades.

37 Aethant o Cades a gwersyllu ym Mynydd Hor, sydd ar gwr gwlad Edom.

38 Aeth Aaron yr offeiriad i fyny Mynydd Hor, ar orchymyn yr ARGLWYDD, a bu farw yno ar y dydd cyntaf o'r pumed mis yn y ddeugeinfed flwyddyn ar ôl i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft.

39 Yr oedd Aaron yn gant dau ddeg a thair oed pan fu farw ar Fynydd Hor.

40 Clywodd brenin Arad, y Canaanead oedd yn byw yn y Negef yng ngwlad Canaan, fod yr Israeliaid yn dod.

41 Aethant o Fynydd Hor a gwersyllu yn Salmona.

42 Aethant o Salmona a gwersyllu yn Punon.

43 Aethant o Punon a gwersyllu yn Oboth.

44 Aethant o Oboth a gwersyllu yn Ije-abarim ar derfyn Moab.

45 Aethant o Ijim a gwersyllu yn Dibon-gad.

46 Aethant o Dibon-gad a gwersyllu yn Almon-diblathaim.

47 Aethant o Almon-diblathaim a gwersyllu ym mynyddoedd Abarim, o flaen Nebo.

48 Aethant o fynyddoedd Abarim a gwersyllu yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen;

49 yr oedd eu gwersyll ar lan yr Iorddonen yn ymestyn o Beth-jesimoth hyd Abel-sittim yng ngwastadedd Moab.

Rhannu'r Wlad

50 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen, a dweud,

51 “Dywed wrth bobl Israel, ‘Wedi i chwi groesi'r Iorddonen i wlad Canaan,

52 yr ydych i yrru allan o'ch blaen holl drigolion y wlad, a dinistrio eu holl gerrig nadd a'u delwau tawdd, a difa eu holl uchelfeydd;

53 yna yr ydych i feddiannu'r wlad a thrigo yno, oherwydd yr wyf wedi rhoi'r wlad i chwi i'w meddiannu.

54 Yr ydych i rannu'r wlad yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd trwy goelbren: i'r llwythau mawr rhowch etifeddiaeth fawr, ac i'r llwythau bychain etifeddiaeth fechan; lle bynnag y bydd y coelbren yn disgyn i unrhyw un, yno y bydd ei feddiant. Felly yr ydych i rannu'r etifeddiaeth yn ôl llwythau eich hynafiaid.

55 Os na fyddwch yn gyrru allan drigolion y wlad o'ch blaen, yna bydd y rhai a adawyd gennych yn bigau yn eich llygaid ac yn ddrain yn eich ystlys, a byddant yn eich poenydio yn y wlad y byddwch yn byw ynddi;

56 ac fe wnaf i chwi yr hyn a fwriedais ei wneud iddynt hwy.’ ”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36