Numeri 19 BCN

Lludw'r Fuwch Goch

1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,

2 “Dyma'r ddeddf a'r gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD: ‘Dywed wrth bobl Israel am ddod â buwch atat, un goch heb unrhyw ddiffyg na nam arni, ac na fu erioed dan iau.

3 Rhowch hi i Eleasar yr offeiriad, a deuer â hi y tu allan i'r gwersyll a'i lladd ger ei fron.

4 Yna fe gymer Eleasar yr offeiriad beth o'r gwaed a'i daenellu â'i fys saith gwaith ar du blaen pabell y cyfarfod.

5 Llosger y fuwch yn ei ŵydd, ynghyd â'i chroen, ei chig, ei gwaed a'i gweddillion.

6 Yna bydd yr offeiriad yn cymryd coed cedrwydd, isop ac edau ysgarlad, ac yn eu taflu i ganol y tân sy'n llosgi'r fuwch.

7 Wedyn bydd yn golchi ei ddillad a'i gorff â dŵr, ac yn dod i mewn i'r gwersyll, ond ni fydd yn lân tan yr hwyr.

8 Y mae'r dyn a losgodd y fuwch hefyd i olchi ei ddillad a'i gorff â dŵr, ac ni fydd yntau ychwaith yn lân tan yr hwyr.

9 Yna bydd dyn sy'n lân yn casglu lludw'r fuwch ac yn ei roi mewn lle glân y tu allan i'r gwersyll, ac fe'i cedwir i gynulliad pobl Israel ei ddefnyddio ar gyfer dŵr puredigaeth; bydd y fuwch, felly, yn aberth dros bechod.

10 Y mae'r dyn sy'n casglu lludw'r fuwch hefyd i olchi ei ddillad, ac ni fydd yn lân tan yr hwyr. Bydd hyn yn ddeddf i'w chadw am byth gan bobl Israel a'r dieithriaid sy'n byw yn eu plith.

Cyffwrdd â Chorff Marw

11 “ ‘Bydd y sawl sy'n cyffwrdd â chorff marw unrhyw un yn aflan am saith diwrnod;

12 y mae i'w olchi ei hun â dŵr ar y trydydd a'r seithfed dydd, a bydd yn lân, ond os na fydd yn ei olchi ei hun ar y trydydd a'r seithfed dydd, ni fydd yn lân.

13 Bydd pwy bynnag sy'n cyffwrdd â chorff marw unrhyw un, a heb ei olchi ei hun, yn halogi tabernacl yr ARGLWYDD, a bydd yn cael ei ddiarddel o Israel; bydd yn aflan, ac yn parhau'n aflan, am nad yw wedi ei drochi mewn dŵr puredigaeth.

14 “ ‘Dyma'r ddeddf pan fydd rhywun yn marw mewn pabell: bydd unrhyw un a ddaw i mewn i'r babell, ac unrhyw un a oedd ynddi'n barod, yn aflan am saith diwrnod.

15 Bydd pob llestr agored, heb gaead wedi ei gau arno, yn aflan.

16 Bydd pwy bynnag sydd allan yn y maes ac yn cyffwrdd ag un a fu farw trwy'r cleddyf, neu â chorff marw unrhyw un, neu asgwrn ohono, neu ei fedd, yn aflan am saith diwrnod.

17 Ar gyfer y rhai aflan fe gymerir peth o ludw'r aberth dros bechod, a thywallt dŵr glân drosto mewn llestr;

18 yna bydd rhywun sy'n lân yn cymryd isop, yn ei drochi mewn dŵr, ac yn ei daenellu ar y babell a'i holl ddodrefn, ac ar bawb oedd yno, ac ar y sawl a gyffyrddodd ag asgwrn neu fedd un a gafodd ei ladd neu a fu farw;

19 bydd y sawl sy'n lân yn ei daenellu dros yr aflan ar y trydydd a'r seithfed dydd, ac erbyn y seithfed dydd bydd wedi ei lanhau; yna bydd yn golchi ei ddillad ei hun a'i gorff â dŵr, ac erbyn yr hwyr bydd yntau'n lân.

20 “ ‘Os yw rhywun yn aflan ac yn gwrthod ei olchi ei hun, fe'i torrir ymaith o blith y cynulliad am iddo halogi cysegr yr ARGLWYDD; bydd yn aflan am na throchwyd ef mewn dŵr puredigaeth.

21 Bydd hyn yn ddeddf iddynt am byth. Y mae'r sawl sy'n taenellu'r dŵr puredigaeth i olchi ei ddillad; bydd pwy bynnag sy'n cyffwrdd â'r dŵr yn aflan tan yr hwyr.

22 Bydd beth bynnag y bydd rhywun aflan yn ei gyffwrdd yn troi'n aflan, ac os bydd rhywun yn cyffwrdd â'r peth aflan hwnnw, bydd yntau'n aflan tan yr hwyr.’ ”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36