Numeri 18 BCN

Dyletswyddau Offeiriaid a Lefiaid

1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, “Byddi di, dy feibion a'th deulu yn atebol am y troseddau a wneir yn erbyn y cysegr, ond ti a'th feibion yn unig fydd yn atebol am y troseddau a wneir yn erbyn yr offeiriadaeth.

2 Gad i'th frodyr o dylwyth Lefi, sef tylwyth dy dad, ymuno â thi a gweini arnat pan fyddi di a'th feibion o flaen pabell y dystiolaeth.

3 Hwy fydd yn gofalu amdanat ac am holl waith y babell, ond nid ydynt i ddynesu at lestri'r cysegr nac at yr allor rhag iddynt hwy, a chwithau, farw.

4 Gad iddynt ymuno â thi i oruchwylio holl wasanaeth pabell y cyfarfod, ond paid â gadael i neb arall ddod yn agos atat.

5 Chwi eich hunain fydd yn gofalu am waith y cysegr a'r allor, rhag i ddigofaint ddod eto ar bobl Israel.

6 Edrych, yr wyf wedi dewis dy frodyr, y Lefiaid, o blith pobl Israel, a'u rhoi i ti; y maent wedi eu neilltuo i'r ARGLWYDD i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod.

7 Fel offeiriaid, yr wyt ti a'th feibion i ofalu am bopeth sy'n ymwneud â'r allor, a phopeth oddi mewn i'r llen; dyna fydd eich gwasanaeth chwi. Yr wyf yn rhoi'r gwasanaeth offeiriadol yn rhodd i chwi, a bydd farw pwy bynnag arall a ddaw'n agos.”

Rhan yr Offeiriaid

8 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, “Edrych, yr wyf wedi rhoi yn dy ofal hefyd yr offrymau a gyflwynir imi; yr wyf yn rhoi holl bethau cysegredig pobl Israel i ti ac i'th feibion yn gyfran arbennig am byth.

9 Dyma fydd yn eiddo iti o'r pethau mwyaf cysegredig a arbedwyd rhag y tân: pob offrwm o eiddo'r Israeliaid a gyflwynir imi, yn fwydoffrwm, yn offrwm dros bechod neu'n aberth dros gamwedd; bydd yn gysegredig iawn gennyt ti a'th feibion.

10 Yr wyt i'w fwyta yn y lle mwyaf sanctaidd; caiff pob gwryw fwyta ohono, a bydd yn gysegredig gennyt.

11 Bydd hyn hefyd yn eiddo iti: y rhan a neilltuir o'r holl roddion a gyflwynir gan bobl Israel yn offrymau cyhwfan; fe'i rhoddais i ti ac i'th feibion a'th ferched am byth; caiff pob un sy'n lân yn dy dŷ fwyta ohoni.

12 Rhoddaf iti hefyd y gorau o'r holl olew, gwin ac ŷd a gyflwynir yn flaenffrwyth i'r ARGLWYDD.

13 Bydd holl flaenffrwyth eu tir a gyflwynir i'r ARGLWYDD yn eiddo iti, a chaiff pob un sy'n lân yn dy dŷ fwyta ohono.

14 Bydd yr holl bethau diofryd yn Israel hefyd yn eiddo i ti.

15 Bydd y cyntaf a ddaw allan o'r groth ac a offrymir i'r ARGLWYDD, yn ddyn neu anifail, yn eiddo i ti; ond yr wyt i brynu'n ôl y plentyn cyntafanedig o'r bobl, a'r cyntafanedig o bob anifail aflan.

16 Yr wyt i'w prynu'n ôl yn fis oed, a thalu'r tâl penodedig o bum sicl o arian, yn ôl sicl y cysegr, sy'n pwyso ugain gera.

17 Ond nid wyt i brynu'n ôl y cyntafanedig o ych, na dafad na gafr, oherwydd y maent hwy'n gysegredig. Yr wyt i daenellu eu gwaed ar yr allor, a llosgi'r braster yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD;

18 ond bydd eu cig yn eiddo i ti, fel y mae'r frest a chwifir, a'r glun dde, yn eiddo i ti.

19 Rhoddaf i ti ac i'th feibion a'th ferched am byth yr holl offrymau sanctaidd a gyflwynir gan bobl Israel i'r ARGLWYDD; bydd hyn yn gyfamod halen am byth gerbron yr ARGLWYDD i ti a'th ddisgynyddion gyda thi.”

20 Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Aaron, “Ni chei di etifeddiaeth yn eu tir na chyfran yn eu mysg; myfi yw dy gyfran di a'th etifeddiaeth ymysg pobl Israel.

Rhan y Lefiaid

21 “Yr wyf yn rhoi yn etifeddiaeth i'r Lefiaid bob degwm yn Israel, yn dâl am eu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

22 Nid yw'r Israeliaid mwyach i ddynesu at babell y cyfarfod, neu byddant yn atebol am eu pechod ac yn marw.

23 Ond y mae'r Lefiaid i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod, a byddant hwy'n atebol am eu camweddau; bydd hyn yn ddeddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau. Ni fydd gan y Lefiaid etifeddiaeth ymhlith pobl Israel,

24 oherwydd fe roddaf yn etifeddiaeth iddynt hwy y degwm a gyflwynir gan bobl Israel yn offrwm i'r ARGLWYDD. Dyna pam y dywedais wrthynt na fydd ganddynt hwy etifeddiaeth ymhlith pobl Israel.”

Degwm y Lefiaid

25 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

26 “Dywed hefyd wrth y Lefiaid, ‘Pan gymerwch gan bobl Israel y degwm a roddais i chwi'n etifeddiaeth, yr ydych i gyflwyno ohono offrwm i'r ARGLWYDD, sef degwm o'r degwm.

27 Fe gyfrifir eich offrwm i chwi fel petai'n ŷd o'r llawr dyrnu neu'n sudd o'r gwinwryf.

28 Felly yr ydych chwithau hefyd i gyflwyno offrwm i'r ARGLWYDD o'r holl ddegymau a dderbyniwch gan bobl Israel, ac y mae'r hyn sy'n offrwm i'r ARGLWYDD i'w roi i Aaron yr offeiriad.

29 Yr ydych i offrymu'n offrwm i'r ARGLWYDD y gorau a'r mwyaf sanctaidd o'r cyfan a dderbyniwch.’

30 Dywed wrthynt hefyd, ‘Wedi ichwi offrymu'r gorau ohono, cyfrifir y gweddill i'r Lefiaid fel petai'n gynnyrch y llawr dyrnu a'r gwinwryf;

31 cewch chwi a'ch teulu ei fwyta mewn unrhyw le, oherwydd dyma eich tâl am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

32 Wedi ichwi offrymu'r gorau ohono, ni fyddwch yn atebol am unrhyw bechod o'i herwydd, ac ni fyddwch yn halogi pethau cysegredig pobl Israel. Felly, ni fyddwch farw.’ ”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36