Numeri 23 BCN

Neges Gyntaf Balaam

1 Dywedodd Balaam wrth Balac, “Adeilada imi yma saith allor, a darpara imi saith bustach a saith hwrdd.”

2 Gwnaeth Balac fel yr oedd Balaam wedi gorchymyn, ac offrymodd Balac a Balaam fustach a hwrdd ar bob allor.

3 Yna dywedodd Balaam wrth Balac, “Aros di wrth dy boethoffrwm, ac af finnau draw oddi yma; hwyrach y daw'r ARGLWYDD i gyfarfod â mi, ac fe ddywedaf wrthyt beth bynnag a ddatguddia imi.” Felly aeth ymaith i fryn uchel.

4 Daeth Duw i gyfarfod â Balaam, a dywedodd Balaam wrtho, “Yr wyf wedi paratoi'r saith allor ac offrymu bustach a hwrdd ar bob un.”

5 Rhoddodd yr ARGLWYDD air yng ngenau Balaam, a dweud, “Dos yn ôl at Balac, a llefara hyn wrtho.”

6 Pan ddychwelodd yntau, gwelodd Balac yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a holl dywysogion Moab gydag ef.

7 Yna llefarodd Balaam ei oracl a dweud,“Daeth Balac â mi o Syria,brenin Moab o fynyddoedd y dwyrain.‘Tyrd,’ meddai, ‘rho felltith ar Jacob imi;tyrd, cyhoedda wae ar Israel.’

8 Sut y gallaf felltithio neb heb i Dduw ei felltithio,neu gyhoeddi gwae ar neb heb i'r ARGLWYDD ei gyhoeddi?

9 Fe'u gwelaf o ben y creigiau,ac edrychaf arnynt o'r bryniau—pobl yn byw mewn unigedd,heb ystyried eu bod ymysg y cenhedloedd.

10 Pwy a all gyfrif Jacob mwy na llwchneu rifo chwarter Israel?Boed i minnau farw fel y bydd marw'r cyfiawn,a boed fy niwedd i fel eu diwedd hwy.”

11 Dywedodd Balac wrth Balaam, “Beth a wnaethost imi? Gelwais amdanat i felltithio fy ngelynion, ond y cyfan a wnaethost oedd eu bendithio.”

12 Atebodd yntau, “Onid oes raid imi lefaru'r hyn y mae'r ARGLWYDD yn ei osod yn fy ngenau?”

Ail Neges Balaam

13 Dywedodd Balac wrtho, “Tyrd gyda mi i le arall er mwyn iti eu gweld oddi yno; ni weli di mo'r cyfan, dim ond un cwr ohonynt, ond oddi yno gelli eu melltithio imi.”

14 Felly cymerodd ef i faes Soffim ar ben Pisga, ac adeiladodd saith allor ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob un.

15 Yna dywedodd Balaam wrth Balac, “Aros di yma wrth dy boethoffrwm, ac af finnau draw i gyfarfod â'r ARGLWYDD.”

16 Daeth yr ARGLWYDD i gyfarfod â Balaam, a rhoi gair yn ei enau, a dweud, “Dos yn ôl at Balac, a llefara hyn wrtho.”

17 Pan ddaeth ef ato, gwelodd Balac yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a thywysogion Moab gydag ef. Gofynnodd Balac iddo, “Beth a ddywedodd yr ARGLWYDD?”

18 Yna llefarodd Balaam ei oracl a dweud:“Cod, Balac, a chlyw:gwrando arnaf, fab Sippor;

19 nid yw Duw fel meidrolyn yn dweud celwydd,neu fod meidrol yn edifarhau.Oni wna yr hyn a addawodd,a chyflawni'r hyn a ddywedodd?

20 Derbyniais orchymyn i fendithio,a phan fo ef yn bendithio, ni allaf ei atal.

21 Ni welodd ddrygioni yn Jacob,ac ni chanfu drosedd yn Israel.Y mae'r ARGLWYDD eu Duw gyda hwy,a bloedd y brenin yn eu plith.

22 Daeth Duw â hwy allan o'r Aifft,ac yr oedd eu nerth fel nerth ych gwyllt.

23 Nid oes swyn yn erbyn Jacob,na dewiniaeth yn erbyn Israel;yn awr fe ddywedir am Jacob ac Israel,‘Gwaith Duw yw hyn!’

24 Dyma bobl sy'n codi fel llewes,ac yn ymsythu fel llew;nid yw'n gorwedd nes bwyta'r ysglyfaethac yfed o waed yr hyn a larpiodd.”

25 Dywedodd Balac wrth Balaam, “Paid â'u melltithio na'u bendithio mwyach.”

26 Ond atebodd Balaam ef, “Oni ddywedais wrthyt fod yn rhaid imi wneud y cyfan a ddywed yr ARGLWYDD?”

Trydedd Neges Balaam

27 Dywedodd Balac wrth Balaam, “Tyrd, fe af â thi i le arall; efallai y bydd Duw yn fodlon iti eu melltithio imi oddi yno.”

28 Felly cymerodd Balac ef i ben Peor, sy'n edrych i lawr dros y diffeithwch,

29 a dywedodd Balaam wrtho, “Adeilada imi yma saith allor, a darpara imi saith bustach a saith hwrdd.”

30 Gwnaeth Balac fel yr oedd Balaam wedi gorchymyn iddo, ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36