Numeri 35 BCN

Dinasoedd y Lefiaid

1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen,

2 “Gorchymyn i bobl Israel roi o'r etifeddiaeth a gânt ddinasoedd i'r Lefiaid i fyw ynddynt, a phorfeydd o amgylch y dinasoedd.

3 Caiff y Lefiaid fyw yn y dinasoedd, a bydd y porfeydd ar gyfer eu gwartheg, eu praidd, a'u holl anifeiliaid.

4 Bydd porfeydd y dinasoedd a roddwch i'r Lefiaid yn ymestyn o fur y ddinas tuag allan am fil o gufyddau oddi amgylch.

5 Yr ydych i fesur, o'r tu allan i'r ddinas, ddwy fil o gufyddau ar yr ochr ddwyreiniol, dwy fil ar yr ochr ddeheuol, dwy fil ar yr ochr orllewinol, a dwy fil ar yr ochr ogleddol, a'r ddinas yn y canol; dyma borfeydd y dinasoedd fydd yn eiddo iddynt.

6 “O'r dinasoedd a rowch i'r Lefiaid, bydd chwech yn ddinasoedd noddfa, lle caiff y lleiddiaid ffoi; yn ychwanegol at y rhain, rhowch iddynt bedwar deg a dwy o ddinasoedd.

7 Felly byddwch yn rhoi i'r Lefiaid bedwar deg ac wyth o ddinasoedd i gyd, gyda'u porfeydd.

8 O'r dinasoedd sy'n feddiant i bobl Israel cymerwch lawer oddi wrth y llwythau mawr, ond llai oddi wrth y llwythau bychain; y mae pob llwyth i roi dinasoedd i'r Lefiaid yn ôl maint yr etifeddiaeth a gafodd.”

Dinasoedd Noddfa

9 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

10 “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch wedi mynd dros yr Iorddonen i mewn i wlad Canaan,

11 yr ydych i neilltuo i chwi eich hunain ddinasoedd i fod yn ddinasoedd noddfa, er mwyn i'r lleiddiad, a laddodd rywun yn anfwriadol, gael ffoi iddynt.

12 Bydd y dinasoedd yn noddfa rhag y dialydd, fel na chaiff y lleiddiad ei ladd cyn iddo sefyll ei brawf o flaen y cynulliad.

13 O'r chwe dinas a nodwch yn ddinasoedd noddfa,

14 bydd tair yr ochr yma i'r Iorddonen, a thair yng ngwlad Canaan.

15 Bydd y chwe dinas hyn yn noddfa i bobl Israel, ac i'r dieithryn a'r ymwelydd yn eu plith, a chaiff pwy bynnag a laddodd rywun yn anfwriadol ffoi iddynt.

16 “ ‘Os bydd rhywun yn taro rhywun arall ag offeryn haearn, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.

17 Os bydd yn ei daro â charreg yn ei law, a'r garreg yn debyg o ladd, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.

18 Os bydd yn ei daro ag arf pren yn ei law, a'r arf yn debyg o ladd, ac yntau'n marw, y mae'n llofrudd; rhodder y llofrudd i farwolaeth.

19 Caiff y sawl sy'n dial gwaed roi'r llofrudd i farwolaeth pan ddaw o hyd iddo.

20 Os bydd rhywun yn gwanu rhywun arall mewn casineb, neu'n ymosod arno'n fwriadol, ac yntau'n marw;

21 neu ynteu'n taro rhywun â'i law mewn atgasedd, ac yntau'n marw, yna rhodder y sawl a'i trawodd i farwolaeth; y mae'n llofrudd, a chaiff y sawl sy'n dial gwaed ei roi i farwolaeth pan ddaw o hyd iddo.

22 “ ‘Os bydd rhywun yn gwanu rhywun arall yn sydyn, a heb atgasedd, neu os bydd yn taflu rhywbeth ato'n anfwriadol,

23 neu ynteu heb edrych yn ei daro â charreg a fyddai'n debyg o'i ladd, ac yntau'n marw, yna, gan na fu gelyniaeth rhyngddynt a chan na fwriadodd ei niweidio,

24 y mae'r cynulliad i farnu rhwng yr ymosodwr a'r dialydd gwaed, yn ôl y deddfau hyn;

25 a bydd y cynulliad yn arbed y lleiddiad rhag y dialydd gwaed ac yn ei roi'n ôl yn y ddinas noddfa y ffodd iddi, a chaiff fyw yno nes marw'r archoffeiriad a eneiniwyd â'r olew cysegredig.

26 Ond os â'r lleiddiad rywbryd y tu allan i derfynau'r ddinas noddfa y ffodd iddi,

27 a'r dialydd gwaed yn ei ganfod a'i ladd, ni fydd yn euog o'i waed.

28 Rhaid i'r lleiddiad aros tu mewn i'w ddinas noddfa nes marw'r archoffeiriad; ond ar ôl marw'r archoffeiriad, caiff ddychwelyd i'r tir sy'n feddiant iddo.

29 “ ‘Bydd hyn yn ddeddf ac yn gyfraith i chwi trwy eich cenedlaethau lle bynnag y byddwch yn byw.

30 Os bydd rhywun yn lladd rhywun arall, rhodder ef i farwolaeth ar dystiolaeth tystion; ond na rodder neb i farwolaeth ar dystiolaeth un tyst.

31 Peidiwch â chymryd arian yn iawn am fywyd llofrudd a gafwyd yn euog o ladd; rhodder ef i farwolaeth.

32 Peidiwch â chymryd arian yn iawn gan y sawl a ffodd i'w ddinas noddfa, er mwyn iddo gael dychwelyd i fyw i'w dir ei hun cyn marw'r archoffeiriad.

33 Peidiwch â halogi'r wlad yr ydych yn byw ynddi; y mae gwaed yn halogi'r wlad, ac ni ellir gwneud iawn am y wlad y tywalltwyd gwaed ynddi ond trwy waed y sawl a'i tywalltodd.

34 Peidiwch â gwneud y wlad yr ydych yn byw ynddi yn aflan, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD, yn preswylio yn ei chanol ac ymysg pobl Israel.’ ”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36