Numeri 26 BCN

Yr Ail Gyfrifiad

1 Ar ôl y pla dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac wrth Eleasar fab Aaron yr offeiriad,

2 “Gwnewch gyfrifiad o holl gynulliad pobl Israel yn ôl eu tylwythau, gan restru pawb yn Israel sy'n ugain oed a throsodd, ac yn abl i fynd i ryfel.”

3 Felly dywedodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrth y bobl yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen,

4 am restru'r rhai oedd yn ugain oed a throsodd, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Dyma'r Israeliaid a ddaeth allan o wlad yr Aifft:

5 Reuben, cyntafanedig Israel; meibion Reuben: o Hanoch, teulu'r Hanochiaid; o Palu, teulu'r Paluiaid;

6 o Hesron, teulu'r Hesroniaid; o Carmi, teulu'r Carmiaid.

7 Dyma gyfanswm teuluoedd y Reubeniaid: pedwar deg tair o filoedd, saith gant a thri deg.

8 Mab Palu: Eliab.

9 Meibion Eliab: Nemuel, Dathan ac Abiram. Dyma'r Dathan a'r Abiram a anogodd y cynulliad i ymuno â chwmni Cora i gwyno yn erbyn Moses ac Aaron, ac yn erbyn yr ARGLWYDD;

10 agorodd y ddaear ei genau a'u llyncu hwy a Cora, a bu farw'r cwmni pan losgwyd dau gant a hanner ohonynt mewn tân, fel rhybudd.

11 Er hyn, ni fu farw meibion Cora.

12 Meibion Simeon yn ôl eu teuluoedd: o Nemuel, teulu'r Nemueliaid; o Jamin, teulu'r Jaminiaid; o Jachin, teulu'r Jachiniaid;

13 o Sera, teulu'r Serahiaid; o Saul, teulu'r Sauliaid.

14 Dyma deuluoedd y Simeoniaid, dau ddeg dwy o filoedd a dau gant.

15 Meibion Gad yn ôl eu teuluoedd: o Seffon, teulu'r Seffoniaid; o Haggi, teulu'r Haggiaid; o Suni, teulu'r Suniaid;

16 o Osni, teulu'r Osniaid; o Eri, teulu'r Eriaid;

17 o Arod, teulu'r Arodiaid; o Areli, teulu'r Areliaid.

18 Dyma deuluoedd meibion Gad, cyfanswm o ddeugain mil a phum cant.

19 Meibion Jwda: Er ac Onan; bu farw Er ac Onan yng ngwlad Canaan.

20 Meibion Jwda yn ôl eu teuluoedd oedd: o Sela, teulu'r Selaniaid; o Peres, teulu'r Peresiaid; o Sera, teulu'r Serahiaid.

21 Meibion Peres oedd: o Hesron, teulu'r Hesroniaid; o Hamul, teulu'r Hamuliaid.

22 Dyma deuluoedd Jwda, cyfanswm o saith deg chwech o filoedd a phum cant.

23 Meibion Issachar yn ôl eu teuluoedd: o Tola, teulu'r Tolaiaid; o Pua, teulu'r Puhiaid;

24 o Jasub, teulu'r Jasubiaid; o Simron, teulu'r Simroniaid.

25 Dyma deuluoedd Issachar, cyfanswm o chwe deg pedair o filoedd a thri chant.

26 Meibion Sabulon yn ôl eu teuluoedd: o Sered, teulu'r Sardiaid; o Elon, teulu'r Eloniaid; o Jahleel, teulu'r Jahleeliaid.

27 Dyma deuluoedd y Sabuloniaid, cyfanswm o drigain mil a phum cant.

28 Meibion Joseff, sef Manasse ac Effraim, yn ôl eu teuluoedd:

29 Meibion Manasse: o Machir, teulu'r Machiriaid; yr oedd Machir yn dad i Gilead; o Gilead, teulu'r Gileadiaid.

30 Dyma feibion Gilead: o Jeser, teulu'r Jeseriaid; o Helec, teulu'r Heleciaid;

31 o Asriel, teulu'r Asrieliaid; o Sechem, teulu'r Sechemiaid;

32 o Semida, teulu'r Semidiaid; o Heffer, teulu'r Hefferiaid.

33 Nid oedd gan Seloffehad fab Heffer feibion, dim ond merched; enwau merched Seloffehad oedd Mala, Noa, Hogla, Milca a Tirsa.

34 Dyma deuluoedd Manasse, cyfanswm o bum deg dwy o filoedd a saith gant.

35 Dyma feibion Effraim yn ôl eu teuluoedd: o Suthela, teulu'r Sutheliaid; o Becher, teulu'r Becheriaid; o Tahan, teulu'r Tahaniaid.

36 Dyma feibion Suthela: o Eran, teulu'r Eraniaid.

37 Dyma deuluoedd meibion Effraim, cyfanswm o dri deg dwy o filoedd a phum cant. Dyma feibion Joseff yn ôl eu teuluoedd.

38 Meibion Benjamin yn ôl eu teuluoedd: o Bela, teulu'r Belaiaid; o Asbel, teulu'r Asbeliaid; o Ahiram, teulu'r Ahiramiaid;

39 o Suffam, teulu'r Suffamiaid; o Huffam, teulu'r Huffamiaid.

40 Meibion Bela oedd Ard a Naaman; o Ard, teulu'r Ardiaid; o Naaman, teulu'r Naamaniaid.

41 Dyma feibion Benjamin yn ôl eu teuluoedd, cyfanswm o bedwar deg pump o filoedd a chwe chant.

42 Dyma feibion Dan yn ôl eu teuluoedd: o Suham, teulu'r Suhamiaid. Dyma dylwyth Dan yn ôl eu teuluoedd.

43 Cyfanswm holl deuluoedd y Suhamiaid oedd chwe deg pedair o filoedd a phedwar cant.

44 Meibion Aser yn ôl eu teuluoedd: o Jimna, teulu'r Jimniaid; o Jesui, teulu'r Jesuiaid; o Bereia, teulu'r Bereiaid.

45 O feibion Bereia: o Heber, teulu'r Heberiaid; o Malciel, teulu'r Malcieliaid.

46 Enw merch Aser oedd Sara.

47 Dyma deuluoedd meibion Aser, cyfanswm o bum deg tair o filoedd a phedwar cant.

48 Meibion Nafftali yn ôl eu teuluoedd: o Jahseel, teulu'r Jahseeliaid; o Guni, teulu'r Guniaid;

49 o Jeser, teulu'r Jeseriaid; o Silem, teulu'r Silemiaid.

50 Dyma dylwyth Nafftali yn ôl eu teuluoedd, cyfanswm o bedwar deg pump o filoedd a phedwar cant.

51 Dyma gyfanswm yr Israeliaid: chwe chant ac un o filoedd saith gant a thri deg.

52 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

53 “I'r rhain, yn ôl nifer yr enwau, y rhennir y tir yn etifeddiaeth.

54 I'r llwythau mawr rho etifeddiaeth fawr, ac i'r llwythau bychain rho etifeddiaeth fechan; rhanna'r etifeddiaeth i bob llwyth yn ôl y nifer sydd ynddo.

55 Yr wyt i rannu'r tir trwy goelbren, ac y maent i etifeddu yn ôl enwau llwythau eu hynafiaid.

56 Rhennir yr etifeddiaeth trwy'r coelbren rhwng y rhai mawr a'r rhai bychain.”

57 Dyma'r Lefiaid a restrwyd yn ôl eu teuluoedd: o Gerson, teulu'r Gersoniaid; o Cohath, teulu'r Cohathiaid; o Merari, teulu'r Merariaid.

58 Dyma deuluoedd Lefi: y Libniaid, yr Hebroniaid, y Mahliaid, y Musiaid a'r Corahiaid. Yr oedd Cohath yn dad i Amram.

59 Enw gwraig Amram oedd Jochebed ferch Lefi, a anwyd iddo yn yr Aifft; ac i Amram fe anwyd ohoni hi Aaron, Moses a'u chwaer Miriam.

60 I Aaron fe anwyd Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar;

61 ond bu farw Nadab ac Abihu wrth iddynt offrymu tân halogedig gerbron yr ARGLWYDD.

62 Rhestrwyd dau ddeg tair o filoedd ohonynt, sef pob gwryw mis oed a throsodd; ni restrwyd hwy ymhlith pobl Israel, oherwydd nid oedd ganddynt hwy etifeddiaeth ymhlith yr Israeliaid.

63 Dyma'r Israeliaid a restrwyd gan Moses ac Eleasar yr offeiriad yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen.

64 Nid oedd ymhlith y rhain yr un o'r Israeliaid a restrwyd gan Moses ac Aaron yr offeiriad yn anialwch Sinai,

65 oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud y byddent hwy farw yn yr anialwch. Ni adawyd neb ohonynt, heblaw Caleb fab Jeffunne, a Josua fab Nun.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36