1 Dyma ddisgynyddion Aaron a Moses yr adeg y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ar Fynydd Sinai.
2 Enwau meibion Aaron oedd: Nadab y cyntafanedig, Abihu, Eleasar ac Ithamar.
3 Dyma oedd enwau meibion Aaron a eneiniwyd ac a gysegrwyd i wasanaethu fel offeiriaid.
4 Bu farw Nadab ac Abihu wedi iddynt offrymu ar dân halogedig o flaen yr ARGLWYDD yn anialwch Sinai. Nid oedd gan y naill na'r llall ohonynt feibion; felly Eleasar ac Ithamar a fu'n gwasanaethu fel offeiriaid yng ngŵydd eu tad Aaron.
5 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
6 “Tyrd â llwyth Lefi yma, a'u penodi i wasanaethu Aaron yr offeiriad.
7 Byddant yn gweini arno ef a'r holl gynulliad o flaen pabell y cyfarfod, ac yn gwasanaethu yn y tabernacl.
8 Hwy fydd yn gofalu am ddodrefn pabell y cyfarfod ac yn gweini ar bobl Israel trwy wasanaethu yn y tabernacl.
9 Yr wyt i roi'r Lefiaid i Aaron a'i feibion; hwy yn unig o blith pobl Israel a gyflwynir yn arbennig iddo ef.
10 Yr wyt i urddo Aaron a'i feibion i wasanaethu fel offeiriaid; ond rhodder i farwolaeth bwy bynnag arall a ddaw'n agos.”
11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
12 “Edrych, yr wyf wedi neilltuo'r Lefiaid o blith pobl Israel yn lle pob cyntafanedig a ddaw allan o'r groth; bydd y Lefiaid yn eiddo i mi,
13 oherwydd eiddof fi yw pob cyntafanedig. Ar y dydd y trewais bob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntafanedig yn Israel, yn ddyn ac anifail; eiddof fi ydynt. Myfi yw'r ARGLWYDD.”
14 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses yn anialwch Sinai,
15 “Yr wyt i gyfrif meibion Lefi yn ôl eu teuluoedd a'u tylwythau; gwna gyfrif o bob gwryw mis oed a throsodd.”
16 Felly cyfrifodd Moses hwy yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
17 Enwau meibion Lefi oedd: Gerson, Cohath a Merari.
18 Dyma enwau meibion Gerson yn ôl eu tylwythau: Libni a Simei.
19 Meibion Cohath yn ôl eu tylwythau: Amram, Ishar, Hebron ac Ussiel.
20 Meibion Merari yn ôl eu tylwythau: Mahli a Musi. Dyma dylwythau'r Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd.
21 O Gerson y daeth tylwyth y Libniaid a thylwyth y Simiaid; dyma dylwythau'r Gersoniaid.
22 Ar ôl rhifo pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd saith mil a phum cant.
23 Yr oedd teuluoedd y Gersoniaid i wersyllu i'r gorllewin, y tu ôl i'r tabernacl.
24 Eliasaff fab Lael oedd penteulu'r Gersoniaid.
25 Ym mhabell y cyfarfod yr oedd meibion Gerson yn gofalu am y tabernacl a'i babell, y llenni, y gorchudd dros ddrws pabell y cyfarfod,
26 llenni'r cyntedd, y gorchudd dros ddrws y cyntedd sydd o amgylch y tabernacl, yr allor a'r rhaffau, a phopeth ynglŷn â'u gwasanaeth.
27 O Cohath y daeth tylwythau'r Amramiaid, yr Ishariaid, yr Hebroniaid a'r Ussieliaid; dyma dylwythau'r Cohathiaid.
28 Ar ôl rhifo pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd wyth mil a chwe chant, a hwy oedd yn gofalu am wasanaeth y cysegr.
29 Yr oedd tylwythau'r Cohathiaid i wersyllu i'r de o'r tabernacl.
30 Elisaffan fab Ussiel oedd penteulu'r Cohathiaid.
31 Yr oeddent hwy i ofalu am yr arch, y bwrdd, y canhwyllbren, yr allorau, y llestri a ddefnyddid yn y cysegr, y gorchudd, a phopeth ynglŷn â'u gwasanaeth.
32 Prif arweinydd y Lefiaid oedd Eleasar fab Aaron yr offeiriad, ac ef oedd yn goruchwylio'r rhai oedd yn gofalu am y cysegr.
33 O Merari y daeth tylwythau'r Mahliaid a'r Musiaid; dyma dylwythau Merari.
34 Ar ôl cyfrif pob gwryw mis oed a throsodd, eu cyfanswm oedd chwe mil a dau gant.
35 Suriel fab Abihael oedd penteulu Merari; yr oeddent i wersyllu i'r gogledd o'r tabernacl.
36 Y Merariaid oedd i ofalu am fframiau'r tabernacl, y barrau, y colofnau, y traed, yr offer i gyd, a phopeth ynglŷn â'u gwasanaeth;
37 hefyd am golofnau'r cyntedd o amgylch, ynghyd â'r traed, yr hoelion a'r rhaffau.
38 Yr oedd Moses ac Aaron a'i feibion i wersyllu i'r dwyrain o'r tabernacl, tua chodiad haul, sef o flaen pabell y cyfarfod. Hwy oedd i ofalu am wasanaeth y cysegr a gweini ar bobl Israel; ond yr oedd pwy bynnag arall a ddôi'n agos i'w roi i farwolaeth.
39 Cyfanswm y Lefiaid a gyfrifodd Moses ac Aaron yn ôl eu tylwythau ar orchymyn yr ARGLWYDD, gan gynnwys pob gwryw mis oed a throsodd, oedd dwy fil ar hugain.
40 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Yr wyt i gyfrif pob gwryw cyntafanedig o blith pobl Israel sy'n fis oed a throsodd, a'u rhestru yn ôl eu henwau.
41 Yna, neilltua'r Lefiaid i mi yn lle pob cyntafanedig o blith pobl Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle'r cyntafanedig o'u hanifeiliaid hwy; myfi yw'r ARGLWYDD.”
42 Felly cyfrifodd Moses bob cyntafanedig o blith pobl Israel, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
43 Ar ôl cyfrif pob gwryw cyntafanedig mis oed a throsodd, a'u rhestru wrth eu henwau, yr oedd eu cyfanswm yn ddwy fil ar hugain dau gant saith deg a thri.
44 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
45 “Neilltua'r Lefiaid yn lle pob cyntafanedig o blith yr Israeliaid, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwy. Bydd y Lefiaid yn eiddo i mi; myfi yw'r ARGLWYDD.
46 Yn iawn am y plant cyntafanedig sy'n eiddo i bobl Israel, sef y dau gant saith deg a thri sy'n rhagor nag eiddo'r Lefiaid,
47 cymer am bob un ohonynt bum sicl, yn ôl sicl y cysegr sy'n pwyso ugain gera;
48 yna rho'r arian sy'n iawn drostynt i Aaron a'i feibion.”
49 Felly cymerodd Moses yr arian oedd yn iawn dros y rhai oedd yn ychwanegol at y nifer a brynwyd trwy'r Lefiaid,
50 ac am blant cyntafanedig Israel cafodd fil tri chant chwe deg a phump o siclau, yn ôl sicl y cysegr.
51 Yna rhoddodd Moses i Aaron a'i feibion yr arian a gymerodd yn iawn, yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.