1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2 “Llefara wrth bobl Israel, a chymer wialen gan bob un o arweinwyr y tylwythau, deuddeg i gyd. Ysgrifenna enw pob dyn ar ei wialen,
3 ond ar wialen Lefi ysgrifenna enw Aaron. Felly bydd gan bob un o arweinwyr y tylwythau wialen.
4 Yna yr wyt i osod y gwiail ym mhabell y cyfarfod, o flaen y dystiolaeth, lle byddaf yn cwrdd â thi.
5 Bydd gwialen y dyn a ddewisaf fi yn blaguro; dyma sut y rhoddaf daw ar yr Israeliaid sy'n grwgnach yn dy erbyn.”
6 Felly llefarodd Moses wrth bobl Israel, a rhoddodd pob un o arweinwyr y tylwythau wialen iddo, deuddeg i gyd; ac yr oedd gwialen Aaron ymhlith eu gwiail hwy.
7 Yna gosododd Moses y gwiail gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y dystiolaeth.
8 Trannoeth aeth Moses i mewn i babell y dystiolaeth, a gwelodd fod gwialen Aaron, a oedd yn cynrychioli tŷ Lefi, wedi blaguro a blodeuo a dwyn almonau aeddfed.
9 Yna daeth Moses â'r holl wiail oedd gerbron yr ARGLWYDD allan at holl bobl Israel, ac wedi iddynt eu gweld, cymerodd pob dyn ei wialen.
10 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Rho wialen Aaron yn ôl o flaen y dystiolaeth fel arwydd i'r rhai gwrthryfelgar; rhydd hyn daw ar eu grwgnach yn f'erbyn, rhag iddynt farw.”
11 Gwnaeth Moses yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
12 Dywedodd pobl Israel wrth Moses, “Edrych, yr ydym yn trengi! Y mae wedi darfod amdanom! Y mae wedi darfod am bob un ohonom!
13 Bydd pob un sy'n nesáu at dabernacl yr ARGLWYDD yn marw. Ai trengi fydd tynged pob un ohonom?”