Numeri 4 BCN

Dyletswyddau Meibion Cohath

1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,

2 “Gwna gyfrifiad o'r rhai ymhlith y Lefiaid sy'n feibion Cohath, yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd,

3 a chynnwys bawb rhwng deg ar hugain a hanner cant oed sy'n medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod.

4 Dyma fydd gwaith meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod: gofalu am y pethau mwyaf cysegredig.

5 Pan fydd yn amser symud y gwersyll, bydd Aaron a'i feibion yn mynd i mewn a thynnu'r gorchudd, a'i daenu dros arch y dystiolaeth;

6 yna byddant yn rhoi gorchudd o grwyn morfuchod drosti, a thros hwnnw liain o sidan sy'n las drwyddo, a gosod y polion yn eu lle.

7 Yna y maent i gymryd lliain arall o sidan glas, a'i daenu dros fwrdd y bara gosod, a rhoi ar y bwrdd y platiau a'r dysglau, y ffiolau a'r costrelau i dywallt y diodoffrwm; bydd y bara yn aros bob amser ar y bwrdd.

8 Y maent i roi drostynt liain o ysgarlad, a thros hwnnw orchudd o grwyn morfuchod, ac yna gosod y polion yn eu lle.

9 Byddant hefyd yn cymryd lliain glas a gorchuddio'r canhwyllbren sy'n goleuo, ei lampau, ei efeiliau a'i gafnau, a'r holl lestri sy'n dal yr olew ar ei gyfer.

10 Yna rhoddant y canhwyllbren gyda'i holl lestri mewn gorchudd o grwyn morfuchod a'i osod ar y trosolion.

11 Wedyn byddant yn rhoi lliain glas dros yr allor aur, a thros hwnnw orchudd o grwyn morfuchod, ac yna gosod y polion yn eu lle.

12 Cymerant yr holl lestri a ddefnyddir yng ngwasanaeth y cysegr, a'u rhoi mewn lliain glas, a rhoi hwnnw mewn gorchudd o grwyn morfuchod a'u gosod ar y trosolion.

13 Y maent i dynnu'r lludw oddi ar yr allor a'i gorchuddio â lliain porffor,

14 cyn gosod arni'r holl lestri a ddefnyddir yn y gwasanaeth, sef y pedyll tân, y ffyrch, y rhawiau, y cawgiau, a holl lestri'r allor; yna rhoddant orchudd o grwyn morfuchod drosti, a gosod y polion yn eu lle.

15 Wedi i Aaron a'i feibion orffen rhoi'r gorchudd dros y cysegr a'i holl ddodrefn, a'r gwersyll yn barod i gychwyn, daw meibion Cohath i'w cludo, ond ni fyddant yn cyffwrdd â'r pethau cysegredig, rhag iddynt farw. Meibion Cohath sydd i gludo'r pethau yn ymwneud â phabell y cyfarfod.

16 “Eleasar fab Aaron yr offeiriad fydd yn gofalu am yr olew ar gyfer y golau, yr arogldarth peraidd, y bwydoffrwm rheolaidd ac olew'r eneinio; ac ef fydd yn goruchwylio'r tabernacl cyfan a'i gynnwys, y cysegr a'i lestri.”

17 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,

18 “Peidiwch â gadael i lwyth teuluoedd y Cohathiaid gael eu torri ymaith o blith y Lefiaid.

19 Dyma a wnewch â hwy, os ydynt am fyw ac nid marw wrth ddynesu at y pethau mwyaf cysegredig: gadewch i Aaron a'i feibion fynd i mewn a rhoi i bob un ei waith a'i orchwyl;

20 ond nid yw'r Cohathiaid i edrych o gwbl ar y pethau cysegredig, rhag iddynt farw.”

Dyletswyddau'r Gersoniaid

21 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

22 “Gwna gyfrifiad hefyd o feibion Gerson, yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd;

23 yr wyt i gyfrif pawb rhwng deg ar hugain a hanner cant oed sy'n medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod.

24 Dyma fydd dyletswydd a gorchwyl teuluoedd y Gersoniaid:

25 cludo llenni'r tabernacl, pabell y cyfarfod, ei len a'r gorchudd o grwyn morfuchod sydd drosto, y gorchudd sydd dros ddrws pabell y cyfarfod,

26 llenni'r cyntedd, y gorchudd dros ddrws porth y cyntedd sydd o amgylch y tabernacl a'r allor; hefyd eu rhaffau, yr holl offer ynglŷn â'u gwasanaeth, a'r holl waith sy'n gysylltiedig â hwy.

27 Bydd holl wasanaeth y Gersoniaid, boed yn gludo neu unrhyw orchwyl arall, dan awdurdod Aaron a'i feibion; eu cyfrifoldeb hwy fydd gofalu am yr holl gludo.

28 Dyma'r gwaith a wna teuluoedd y Gersoniaid ym mhabell y cyfarfod dan oruchwyliaeth Ithamar fab Aaron yr offeiriad.

Dyletswyddau'r Merariaid

29 “Yr wyt i gyfrif meibion Merari yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd,

30 yn cynnwys pawb rhwng deg ar hugain a hanner cant oed sy'n medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod.

31 Dyma fydd eu gwasanaeth hwy ym mhabell y cyfarfod: gofalu am gludo fframiau'r tabernacl, ei farrau, ei golofnau a'i draed,

32 a cholofnau'r cyntedd o amgylch gyda'u traed, eu hoelion a'u rhaffau, a'r holl offer ynglŷn â'u gwasanaeth; yr ydych i nodi wrth eu henwau y pethau y maent i'w cludo.

33 Fe wna teuluoedd y Merariaid y cyfan ym mhabell y cyfarfod dan oruchwyliaeth Ithamar fab Aaron yr offeiriad.”

Cyfrifiad y Lefiaid

34 Felly cyfrifodd Moses, Aaron ac arweinwyr y cynulliad feibion y Cohathiaid yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd.

35 Cyfanswm y rhai rhwng deg ar hugain a hanner cant oed oedd yn medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod,

36 wedi eu cyfrif yn ôl eu tylwythau, oedd dwy fil saith gant a phum deg.

37 Dyma nifer yr holl rai o deuluoedd y Cohathiaid oedd yn gwasanaethu ym mhabell y cyfarfod, ac a gyfrifwyd gan Moses ac Aaron yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i Moses.

38 Dyma nifer y Gersoniaid yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd:

39 cyfanswm y rhai rhwng deg ar hugain a hanner cant oed oedd yn medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod,

40 wedi eu cyfrif yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd, oedd dwy fil chwe chant a thri deg.

41 Dyma nifer y rhai o deuluoedd y Gersoniaid oedd yn gwasanaethu ym mhabell y cyfarfod, ac a gyfrifwyd gan Moses ac Aaron yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD.

42 Dyma nifer teuluoedd y Merariaid yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd:

43 cyfanswm y rhai rhwng deg ar hugain a hanner cant oed oedd yn medru mynd i mewn i weithio ym mhabell y cyfarfod,

44 wedi eu cyfrif yn ôl eu tylwythau, oedd tair mil a dau gant.

45 Dyma nifer y rhai o dylwythau'r Merariaid a gyfrifwyd gan Moses ac Aaron yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i Moses.

46 Felly cyfrifodd Moses, Aaron ac arweinwyr Israel yr holl Lefiaid yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd.

47 Cyfanswm y rhai rhwng deg ar hugain a hanner cant oed oedd yn medru mynd i mewn i wneud y gwaith a chludo'r pethau ym mhabell y cyfarfod

48 oedd wyth mil pum cant ac wyth deg.

49 Yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD i Moses, gosodwyd i bob un ei waith a'i orchwyl, a chyfrifwyd hwy ganddo.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36