1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,
2 “Bydd pobl Israel yn gwersyllu o amgylch pabell y cyfarfod, ychydig oddi wrthi, pob un dan ei faner ei hun a than arwydd tŷ ei dad.
3 Ar ochr y dwyrain, tua chodiad haul, bydd minteioedd gwersyll Jwda yn gwersyllu o dan eu baner.
4 Nahson fab Amminadab fydd arweinydd pobl Jwda, a nifer ei lu yn saith deg pedair o filoedd a chwe chant.
5 Llwyth Issachar fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Nethanel fab Suar fydd arweinydd pobl Issachar,
6 a nifer ei lu yn bum deg pedair o filoedd a phedwar cant.
7 Yna llwyth Sabulon; Eliab fab Helon fydd arweinydd pobl Sabulon,
8 a nifer ei lu yn bum deg saith o filoedd a phedwar cant.
9 Cyfanswm gwersyll Jwda, yn ôl eu minteioedd, fydd cant wyth deg chwech o filoedd a phedwar cant. Hwy fydd y rhai cyntaf i gychwyn ar y daith.
10 “Ar ochr y de bydd minteioedd gwersyll Reuben o dan eu baner. Elisur fab Sedeur fydd arweinydd pobl Reuben,
11 a nifer ei lu yn bedwar deg chwech o filoedd a phum cant.
12 Llwyth Simeon fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Selumiel fab Suresadai fydd arweinydd pobl Simeon,
13 a nifer ei lu yn bum deg naw o filoedd a thri chant.
14 Yna llwyth Gad; Eliasaff fab Reuel fydd arweinydd pobl Gad,
15 a nifer ei lu yn bedwar deg pump o filoedd, chwe chant a phum deg.
16 Cyfanswm gwersyll Reuben, yn ôl eu minteioedd, fydd cant pum deg un o filoedd pedwar cant a phum deg. Hwy fydd yr ail i gychwyn allan.
17 “Yna bydd pabell y cyfarfod a gwersyll y Lefiaid yn cychwyn allan yng nghanol y gwersylloedd eraill. Byddant yn ymdeithio yn y drefn y byddant yn gwersyllu, pob un yn ei le a than ei faner ei hun.
18 “Ar ochr y gorllewin bydd minteioedd gwersyll Effraim o dan eu baner. Elisama fab Ammihud fydd arweinydd pobl Effraim,
19 a nifer ei lu yn bedwar deg o filoedd a phum cant.
20 Yn nesaf ato bydd llwyth Manasse. Gamaliel fab Pedasur fydd arweinydd pobl Manasse,
21 a nifer ei lu yn dri deg dwy o filoedd a dau gant.
22 Yna llwyth Benjamin; Abidan fab Gideoni fydd arweinydd pobl Benjamin,
23 a nifer ei lu yn dri deg pump o filoedd a phedwar cant.
24 Cyfanswm gwersyll Effraim, yn ôl eu minteioedd, fydd cant ac wyth o filoedd a chant. Hwy fydd y trydydd i gychwyn allan.
25 “Ar ochr y gogledd bydd minteioedd gwersyll Dan o dan eu baner. Ahieser fab Ammisadai fydd arweinydd pobl Dan,
26 a nifer ei lu yn chwe deg dwy o filoedd a saith gant.
27 Llwyth Aser fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Pagiel fab Ocran fydd arweinydd pobl Aser,
28 a nifer ei lu yn bedwar deg un o filoedd a phum cant.
29 Yna llwyth Nafftali; Ahira fab Enan fydd arweinydd pobl Nafftali,
30 a nifer ei lu yn bum deg tair o filoedd a phedwar cant.
31 Cyfanswm gwersyll Dan fydd cant pum deg saith o filoedd a chwe chant. Hwy fydd yr olaf i gychwyn allan, pob un dan ei faner ei hun.”
32 Dyma bobl Israel a gyfrifwyd yn ôl eu teuluoedd. Cyfanswm y rhai a rifwyd yn eu gwersylloedd ac yn ôl eu minteioedd oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant a phum deg.
33 Ond, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses, ni rifwyd y Lefiaid ymysg pobl Israel.
34 Gwnaeth pobl Israel y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses, gan wersyllu dan eu baneri a chychwyn allan, fesul tylwyth, yn ôl eu teuluoedd.