12 Ai myfi a feichiogodd ar yr holl bobl hyn? Ai myfi a'u cenhedlodd? Pam y dywedi wrthyf, ‘Cluda hwy yn dy fynwes, fel y bydd tadmaeth yn cludo plentyn sugno, a dos â hwy i'r wlad y tyngais y byddwn yn ei rhoi i'w hynafiaid’?
13 O ble y caf fi gig i'w roi i'r holl bobl hyn? Y maent yn wylo ac yn dweud wrthyf, ‘Rho inni gig i'w fwyta.’
14 Ni allaf gario'r holl bobl hyn fy hunan; y mae'r baich yn rhy drwm imi.
15 Os fel hyn yr wyt am wneud â mi, yna lladd fi yn awr, os wyf i gael ffafr yn dy olwg, rhag i mi weld fy nhrueni.”
16 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Casgla i mi ddeg a thrigain o henuriaid Israel, rhai y gwyddost eu bod yn henuriaid y bobl ac yn swyddogion drostynt, a chymer hwy i babell y cyfarfod, a gwna iddynt sefyll yno gyda thi.
17 Fe ddof finnau i lawr a llefaru wrthyt yno, a chymeraf beth o'r ysbryd sydd arnat ti a'i roi arnynt hwy; byddant hwy gyda thi i gario baich y bobl, rhag iti ei gario dy hunan.
18 Dywed wrth y bobl, ‘Ymgysegrwch erbyn yfory, a chewch fwyta cig; oherwydd yr ydych wedi wylo yng nghlyw'r ARGLWYDD, a dweud, “Pwy a rydd inni gig i'w fwyta? Yr oeddem yn dda ein byd yn yr Aifft.” Felly fe rydd yr ARGLWYDD i chwi gig, a chewch fwyta.