32 Cododd y bobl, a chasglu'r soflieir trwy gydol y dydd hwnnw, trwy'r nos, a thrwy'r dydd drannoeth nes bod yr un a gasglodd leiaf wedi casglu deg homer; yna rhannwyd hwy ymhlith ei gilydd o amgylch y gwersyll.
33 Pan oedd y cig rhwng eu dannedd yn barod i'w gnoi, enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn y bobl, a thrawodd hwy â phla mawr iawn.
34 Felly galwyd y lle hwnnw yn Cibroth-hattaafa, oherwydd yno y claddwyd y bobl oedd â chwant arnynt.
35 Yna aethant o Cibroth-hattaafa i Haseroth, ac aros yno.