6 Yna dywedodd,“Gwrandewch yn awr ar fy ngeiriau:Os oes proffwyd yr ARGLWYDD yn eich plith,datguddiaf fy hun iddo mewn gweledigaeth,a llefaraf wrtho mewn breuddwyd.
7 Ond nid felly y mae gyda'm gwas Moses;ef yn unig o'm holl dŷ sy'n ffyddlon.
8 Llefaraf ag ef wyneb yn wyneb,yn eglur, ac nid mewn posau;caiff ef weled ffurf yr ARGLWYDD.Pam, felly, nad oedd arnoch ofncwyno yn erbyn fy ngwas Moses?”
9 Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn eu herbyn, ac aeth ymaith.
10 Pan gododd y cwmwl oddi ar y babell, yr oedd Miriam yn wahanglwyfus, ac yn wyn fel yr eira.
11 Trodd Aaron ati, a gwelodd ei bod yn wahanglwyfus. Yna dywedodd wrth Moses, “O f'arglwydd, paid â chyfrif yn ein herbyn y pechod hwn y buom mor ffôl â'i wneud.
12 Paid â gadael i Miriam fod fel erthyl yn dod allan o groth y fam, a'r cnawd wedi hanner ei ddifa.”