8 Llefaraf ag ef wyneb yn wyneb,yn eglur, ac nid mewn posau;caiff ef weled ffurf yr ARGLWYDD.Pam, felly, nad oedd arnoch ofncwyno yn erbyn fy ngwas Moses?”
9 Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn eu herbyn, ac aeth ymaith.
10 Pan gododd y cwmwl oddi ar y babell, yr oedd Miriam yn wahanglwyfus, ac yn wyn fel yr eira.
11 Trodd Aaron ati, a gwelodd ei bod yn wahanglwyfus. Yna dywedodd wrth Moses, “O f'arglwydd, paid â chyfrif yn ein herbyn y pechod hwn y buom mor ffôl â'i wneud.
12 Paid â gadael i Miriam fod fel erthyl yn dod allan o groth y fam, a'r cnawd wedi hanner ei ddifa.”
13 Felly galwodd Moses ar yr ARGLWYDD, “O Dduw, yr wyf yn erfyn arnat ei hiacháu.”
14 Atebodd yr ARGLWYDD ef, “Pe bai ei thad wedi poeri yn ei hwyneb, oni fyddai hi wedi cywilyddio am saith diwrnod? Caeer hi allan o'r gwersyll am saith diwrnod, ac yna caiff ddod i mewn eto.”