1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2 “Anfon ddynion i ysbïo Canaan, y wlad yr wyf yn ei rhoi i bobl Israel; yr wyt i anfon pennaeth o bob un o lwythau eu hynafiaid.”
3 Felly, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD, anfonodd Moses hwy allan o anialwch Paran, pob un ohonynt yn flaenllaw ymhlith pobl Israel.
4 Dyma eu henwau: o lwyth Reuben: Sammua fab Saccur;
5 o lwyth Simeon: Saffat fab Hori;