12 o lwyth Dan: Ammiel fab Gemali;
13 o lwyth Aser: Sethur fab Michael;
14 o lwyth Nafftali: Nahbi fab Foffsi;
15 o lwyth Gad: Geuel fab Maci.
16 Dyna enwau'r dynion a anfonodd Moses i ysbïo'r wlad. Rhoddodd Moses yr enw Josua i Hosea fab Nun.
17 Wrth i Moses eu hanfon i ysbïo gwlad Canaan, dywedodd wrthynt, “Ewch i fyny trwy'r Negef i'r mynydd-dir,
18 ac edrychwch pa fath wlad yw hi: p'run ai cryf ynteu gwan, ychydig ynteu niferus yw'r bobl sy'n byw ynddi;