13 Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “Oni ddaw'r Eifftiaid i glywed am hyn, gan mai o'u plith hwy y daethost â'r bobl yma allan â'th nerth dy hun?
14 Ac oni ddywedant hwy wrth drigolion y wlad hon? Y maent wedi clywed dy fod di, ARGLWYDD, gyda'r bobl hyn, ac yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod dy gwmwl yn aros drostynt, a'th fod yn eu harwain mewn colofn o niwl yn y dydd a cholofn o dân yn y nos.
15 Yn awr, os lleddi'r bobl hyn ag un ergyd, bydd y cenhedloedd sydd wedi clywed sôn amdanat yn dweud,
16 ‘Lladdodd yr ARGLWYDD y bobl hyn yn yr anialwch am na fedrai ddod â hwy i'r wlad y tyngodd lw ei rhoi iddynt.’
17 Felly erfyniaf ar i nerth yr ARGLWYDD gynyddu, fel yr addewaist pan ddywedaist,
18 ‘Y mae'r ARGLWYDD yn araf i ddigio ac yn llawn o drugaredd, yn maddau drygioni a gwrthryfel; eto, heb adael yr euog yn ddi-gosb, y mae'n cosbi'r plant am droseddau'r tadau hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth.’
19 Yn ôl dy drugaredd fawr, maddau ddrygioni'r bobl hyn, fel yr wyt wedi maddau iddynt o ddyddiau'r Aifft hyd yn awr.”