19 Yn ôl dy drugaredd fawr, maddau ddrygioni'r bobl hyn, fel yr wyt wedi maddau iddynt o ddyddiau'r Aifft hyd yn awr.”
20 Atebodd yr ARGLWYDD, “Yr wyf wedi maddau iddynt, yn ôl dy ddymuniad;
21 ond yn awr, cyn wired â'm bod yn fyw a bod gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r holl ddaear,
22 ni fydd yr un o'r rhai a welodd fy ngogoniant a'r arwyddion a wneuthum yn yr Aifft ac yn yr anialwch, ond a wrthododd wrando arnaf a'm profi y dengwaith hyn,
23 yn cael gweld y wlad y tyngais ei rhoi i'w hynafiaid; ac ni fydd neb o'r rhai a fu'n fy nilorni yn ei gweld ychwaith.
24 Ond y mae ysbryd gwahanol yn fy ngwas Caleb, ac am iddo fy nilyn yn llwyr, arweiniaf ef i'r wlad y bu eisoes i mewn ynddi, a bydd ei ddisgynyddion yn ei meddiannu.
25 Yn awr, am fod yr Amaleciaid a'r Canaaneaid yn byw yn y dyffryn, yr ydych i ddychwelyd yfory i'r anialwch a cherdded ar hyd ffordd y Môr Coch.”