38 Ond o'r dynion hynny a aeth i ysbïo'r wlad, cafodd Josua fab Nun a Caleb fab Jeffunne fyw.
39 Pan ddywedodd Moses hyn wrth yr holl Israeliaid, dechreuodd y bobl alaru'n ddirfawr.
40 Codasant yn fore drannoeth a dringo i'r mynydd-dir, a dweud, “Edrychwch, awn i fyny i'r lle y dywedodd yr ARGLWYDD amdano; oherwydd yr ydym wedi pechu.”
41 Ond dywedodd Moses, “Pam yr ydych yn troseddu yn erbyn gorchymyn yr ARGLWYDD? Ni fyddwch yn llwyddo.
42 Peidiwch â mynd i fyny rhag i'ch gelynion eich difa, oherwydd nid yw'r ARGLWYDD gyda chwi.
43 Y mae'r Amaleciaid a'r Canaaneaid o'ch blaen, a byddwch yn syrthio trwy fin y cleddyf; ni fydd yr ARGLWYDD gyda chwi, am eich bod wedi cefnu arno.”
44 Eto, yr oeddent yn benderfynol o ddringo i'r mynydd-dir, er nad aeth Moses nac arch cyfamod yr ARGLWYDD allan o'r gwersyll.