4 Dywedasant wrth ei gilydd, “Dewiswn un yn ben arnom, a dychwelwn i'r Aifft.”
5 Yna ymgrymodd Moses ac Aaron o flaen holl aelodau cynulliad pobl Israel.
6 Dechreuodd Josua fab Nun a Caleb fab Jeffunne, a fu'n ysbïo'r wlad, rwygo'u dillad,
7 a dweud wrth holl gynulliad pobl Israel, “Y mae'r wlad yr aethom drwyddi i'w hysbïo yn wlad dda iawn.
8 Os bydd yr ARGLWYDD yn fodlon arnom, fe'n harwain i mewn i'r wlad hon sy'n llifeirio o laeth a mêl, a'i rhoi inni.
9 Ond peidiwch â gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, a pheidiwch ag ofni trigolion y wlad, oherwydd byddant yn ysglyfaeth i ni. Y mae'r ARGLWYDD gyda ni, ond y maent hwy yn ddiamddiffyn; felly peidiwch â'u hofni.”
10 Tra oedd yr holl Israeliaid yn sôn am eu llabyddio, ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD iddynt ym mhabell y cyfarfod.