42 Peidiwch â mynd i fyny rhag i'ch gelynion eich difa, oherwydd nid yw'r ARGLWYDD gyda chwi.
43 Y mae'r Amaleciaid a'r Canaaneaid o'ch blaen, a byddwch yn syrthio trwy fin y cleddyf; ni fydd yr ARGLWYDD gyda chwi, am eich bod wedi cefnu arno.”
44 Eto, yr oeddent yn benderfynol o ddringo i'r mynydd-dir, er nad aeth Moses nac arch cyfamod yr ARGLWYDD allan o'r gwersyll.
45 Yna daeth yr Amaleciaid a'r Canaaneaid a oedd yn byw yn y mynydd-dir hwnnw i lawr yn eu herbyn, a'u herlid hyd Horma.