6 Dechreuodd Josua fab Nun a Caleb fab Jeffunne, a fu'n ysbïo'r wlad, rwygo'u dillad,
7 a dweud wrth holl gynulliad pobl Israel, “Y mae'r wlad yr aethom drwyddi i'w hysbïo yn wlad dda iawn.
8 Os bydd yr ARGLWYDD yn fodlon arnom, fe'n harwain i mewn i'r wlad hon sy'n llifeirio o laeth a mêl, a'i rhoi inni.
9 Ond peidiwch â gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, a pheidiwch ag ofni trigolion y wlad, oherwydd byddant yn ysglyfaeth i ni. Y mae'r ARGLWYDD gyda ni, ond y maent hwy yn ddiamddiffyn; felly peidiwch â'u hofni.”
10 Tra oedd yr holl Israeliaid yn sôn am eu llabyddio, ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD iddynt ym mhabell y cyfarfod.
11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Am ba hyd y bydd y bobl hyn yn fy nilorni? Ac am ba hyd y byddant yn gwrthod credu ynof, er yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith?
12 Trawaf hwy â haint a'u gwasgaru, ond fe'th wnaf di'n genedl fwy a chryfach na hwy.”