16 Un gyfraith ac un rheol fydd i chwi ac i'r dieithryn a fydd gyda chwi.’ ”
17 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
18 “Dywed wrth bobl Israel, ‘Wedi ichwi ddod i mewn i'r wlad yr wyf yn eich arwain iddi,
19 a bwyta o gynnyrch y tir, yr ydych i gyflwyno offrwm i'r ARGLWYDD.
20 Offrymwch deisen wedi ei gwneud o'r toes cyntaf y byddwch yn ei baratoi, a chyflwynwch hi'n offrwm o'r llawr dyrnu.
21 Yr ydych i offrymu i'r ARGLWYDD y cyntaf o'ch toes dros eich cenedlaethau.
22 “ ‘Os byddwch, mewn camgymeriad, heb gadw'r holl orchmynion hyn a roddodd yr ARGLWYDD ichwi trwy Moses,