2 “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan ddewch i'r wlad yr wyf yn ei rhoi i chwi i fyw ynddi,
3 a phan fyddwch yn offrymu o'ch gwartheg neu o'ch defaid offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, boed yn boethoffrwm neu'n aberth cyffredin, boed yn offrwm i gyflawni adduned neu'n offrwm gwirfodd neu'n un a gyflwynir ar eich gwyliau penodedig,
4 yna y mae'r sawl sy'n offrymu i ddod â bwydoffrwm i'r ARGLWYDD, sef degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu â chwarter hin o olew;
5 y mae hefyd i baratoi gyda'r poethoffrwm chwarter hin o win yn ddiodoffrwm a'i gyflwyno gyda phob oen a offrymir yn aberth.
6 Os offrymir hwrdd, deuer â bwydoffrwm o bumed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu â thraean hin o olew,
7 ac ar gyfer y diodoffrwm deuer â thraean hin o win; byddant yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
8 Os offrymir bustach ifanc yn boethoffrwm neu'n aberth, boed i gyflawni adduned neu'n heddoffrwm i'r ARGLWYDD,