31 Am iddo ddiystyru gair yr ARGLWYDD a gwrthod cadw ei orchymyn, fe'i torrir ymaith yn llwyr a bydd yn dwyn ei gamwedd arno'i hun.’ ”
32 Pan oedd yr Israeliaid yn yr anialwch, gwelsant ddyn yn casglu coed ar y Saboth,
33 ac wedi iddynt ddod ag ef at Moses ac Aaron a'r holl gynulliad,
34 rhoddwyd ef yn y ddalfa am nad oedd yn glir beth y dylid ei wneud ag ef.
35 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Rhodder y dyn i farwolaeth; y mae'r holl gynulliad i'w labyddio y tu allan i'r gwersyll.”
36 Felly daeth yr holl gynulliad ag ef y tu allan i'r gwersyll a'i labyddio, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses, a bu farw.
37 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,