36 Felly daeth yr holl gynulliad ag ef y tu allan i'r gwersyll a'i labyddio, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses, a bu farw.
37 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
38 “Dywed wrth bobl Israel am iddynt, dros eu cenedlaethau, wneud taselau ar odre eu gwisg, a chlymu ruban glas ar y tasel ym mhob congl.
39 Pan fyddwch yn edrych ar y tasel, fe gofiwch gadw holl orchmynion yr ARGLWYDD, ac ni fyddwch yn puteinio trwy fynd ar ôl y pethau y mae eich calonnau a'ch llygaid yn chwantu amdanynt.
40 Felly fe gofiwch gadw fy holl orchmynion, a byddwch yn sanctaidd i'ch Duw.
41 Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a ddaeth â chwi allan o wlad yr Aifft i fod yn Dduw i chwi; myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.”