7 ac ar gyfer y diodoffrwm deuer â thraean hin o win; byddant yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
8 Os offrymir bustach ifanc yn boethoffrwm neu'n aberth, boed i gyflawni adduned neu'n heddoffrwm i'r ARGLWYDD,
9 yna deuer â bwydoffrwm o dair degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu â hanner hin o olew,
10 ac ar gyfer y diodoffrwm deuer â hanner hin o win; bydd yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
11 Felly y gwneir â phob ych, hwrdd, oen gwryw a gafr,
12 pa faint bynnag ohonynt y byddwch yn eu hoffrymu.
13 Dyma sut y mae'r holl frodorion i offrymu offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.’