10 Y mae'r dyn sy'n casglu lludw'r fuwch hefyd i olchi ei ddillad, ac ni fydd yn lân tan yr hwyr. Bydd hyn yn ddeddf i'w chadw am byth gan bobl Israel a'r dieithriaid sy'n byw yn eu plith.
11 “ ‘Bydd y sawl sy'n cyffwrdd â chorff marw unrhyw un yn aflan am saith diwrnod;
12 y mae i'w olchi ei hun â dŵr ar y trydydd a'r seithfed dydd, a bydd yn lân, ond os na fydd yn ei olchi ei hun ar y trydydd a'r seithfed dydd, ni fydd yn lân.
13 Bydd pwy bynnag sy'n cyffwrdd â chorff marw unrhyw un, a heb ei olchi ei hun, yn halogi tabernacl yr ARGLWYDD, a bydd yn cael ei ddiarddel o Israel; bydd yn aflan, ac yn parhau'n aflan, am nad yw wedi ei drochi mewn dŵr puredigaeth.
14 “ ‘Dyma'r ddeddf pan fydd rhywun yn marw mewn pabell: bydd unrhyw un a ddaw i mewn i'r babell, ac unrhyw un a oedd ynddi'n barod, yn aflan am saith diwrnod.
15 Bydd pob llestr agored, heb gaead wedi ei gau arno, yn aflan.
16 Bydd pwy bynnag sydd allan yn y maes ac yn cyffwrdd ag un a fu farw trwy'r cleddyf, neu â chorff marw unrhyw un, neu asgwrn ohono, neu ei fedd, yn aflan am saith diwrnod.