12 Llwyth Simeon fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Selumiel fab Suresadai fydd arweinydd pobl Simeon,
13 a nifer ei lu yn bum deg naw o filoedd a thri chant.
14 Yna llwyth Gad; Eliasaff fab Reuel fydd arweinydd pobl Gad,
15 a nifer ei lu yn bedwar deg pump o filoedd, chwe chant a phum deg.
16 Cyfanswm gwersyll Reuben, yn ôl eu minteioedd, fydd cant pum deg un o filoedd pedwar cant a phum deg. Hwy fydd yr ail i gychwyn allan.
17 “Yna bydd pabell y cyfarfod a gwersyll y Lefiaid yn cychwyn allan yng nghanol y gwersylloedd eraill. Byddant yn ymdeithio yn y drefn y byddant yn gwersyllu, pob un yn ei le a than ei faner ei hun.
18 “Ar ochr y gorllewin bydd minteioedd gwersyll Effraim o dan eu baner. Elisama fab Ammihud fydd arweinydd pobl Effraim,