21 a nifer ei lu yn dri deg dwy o filoedd a dau gant.
22 Yna llwyth Benjamin; Abidan fab Gideoni fydd arweinydd pobl Benjamin,
23 a nifer ei lu yn dri deg pump o filoedd a phedwar cant.
24 Cyfanswm gwersyll Effraim, yn ôl eu minteioedd, fydd cant ac wyth o filoedd a chant. Hwy fydd y trydydd i gychwyn allan.
25 “Ar ochr y gogledd bydd minteioedd gwersyll Dan o dan eu baner. Ahieser fab Ammisadai fydd arweinydd pobl Dan,
26 a nifer ei lu yn chwe deg dwy o filoedd a saith gant.
27 Llwyth Aser fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Pagiel fab Ocran fydd arweinydd pobl Aser,