24 Cyfanswm gwersyll Effraim, yn ôl eu minteioedd, fydd cant ac wyth o filoedd a chant. Hwy fydd y trydydd i gychwyn allan.
25 “Ar ochr y gogledd bydd minteioedd gwersyll Dan o dan eu baner. Ahieser fab Ammisadai fydd arweinydd pobl Dan,
26 a nifer ei lu yn chwe deg dwy o filoedd a saith gant.
27 Llwyth Aser fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Pagiel fab Ocran fydd arweinydd pobl Aser,
28 a nifer ei lu yn bedwar deg un o filoedd a phum cant.
29 Yna llwyth Nafftali; Ahira fab Enan fydd arweinydd pobl Nafftali,
30 a nifer ei lu yn bum deg tair o filoedd a phedwar cant.