3 Ar ochr y dwyrain, tua chodiad haul, bydd minteioedd gwersyll Jwda yn gwersyllu o dan eu baner.
4 Nahson fab Amminadab fydd arweinydd pobl Jwda, a nifer ei lu yn saith deg pedair o filoedd a chwe chant.
5 Llwyth Issachar fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Nethanel fab Suar fydd arweinydd pobl Issachar,
6 a nifer ei lu yn bum deg pedair o filoedd a phedwar cant.
7 Yna llwyth Sabulon; Eliab fab Helon fydd arweinydd pobl Sabulon,
8 a nifer ei lu yn bum deg saith o filoedd a phedwar cant.
9 Cyfanswm gwersyll Jwda, yn ôl eu minteioedd, fydd cant wyth deg chwech o filoedd a phedwar cant. Hwy fydd y rhai cyntaf i gychwyn ar y daith.