9 Cyfanswm gwersyll Jwda, yn ôl eu minteioedd, fydd cant wyth deg chwech o filoedd a phedwar cant. Hwy fydd y rhai cyntaf i gychwyn ar y daith.
10 “Ar ochr y de bydd minteioedd gwersyll Reuben o dan eu baner. Elisur fab Sedeur fydd arweinydd pobl Reuben,
11 a nifer ei lu yn bedwar deg chwech o filoedd a phum cant.
12 Llwyth Simeon fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Selumiel fab Suresadai fydd arweinydd pobl Simeon,
13 a nifer ei lu yn bum deg naw o filoedd a thri chant.
14 Yna llwyth Gad; Eliasaff fab Reuel fydd arweinydd pobl Gad,
15 a nifer ei lu yn bedwar deg pump o filoedd, chwe chant a phum deg.