2 Gwnaeth Israel adduned i'r ARGLWYDD, a dweud, “Os rhoddi di'r bobl hyn yn ein dwylo, yna fe ddinistriwn eu dinasoedd yn llwyr.”
3 Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar gri Israel, a rhoddodd y Canaaneaid yn eu dwylo; dinistriodd yr Israeliaid hwy a'u dinasoedd, ac felly y galwyd y lle yn Horma.
4 Yna aeth yr Israeliaid o Fynydd Hor ar hyd ffordd y Môr Coch, ac o amgylch gwlad Edom. Dechreuodd y bobl fod yn anniddig ar y daith,
5 a siarad yn erbyn Duw a Moses, a dweud, “Pam y daethoch â ni o'r Aifft i farw yn yr anialwch? Nid oes yma na bwyd na diod, ac y mae'n gas gennym y bwyd gwael hwn.”
6 Felly anfonodd yr ARGLWYDD seirff gwenwynig ymysg y bobl, a bu nifer o'r Israeliaid farw wedi iddynt gael eu brathu ganddynt.
7 Yna daeth y bobl at Moses, a dweud, “Yr ydym wedi pechu trwy siarad yn erbyn yr ARGLWYDD ac yn dy erbyn di; gweddïa ar i'r ARGLWYDD yrru'r seirff ymaith oddi wrthym.” Felly gweddïodd Moses ar ran y bobl,
8 a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Gwna sarff a'i gosod ar bolyn, a bydd pawb a frathwyd, o edrych arni, yn cael byw.”