16 Daethant at Balaam a dweud wrtho, “Dyma a ddywed Balac fab Sippor, ‘Paid â gadael i ddim dy rwystro rhag dod ataf;
17 fe ddeliaf yn gwbl anrhydeddus â thi, ac fe wnaf y cyfan a ddywedi wrthyf; felly tyrd, a melltithia'r bobl hyn imi.’ ”
18 Ond dywedodd Balaam wrth weision Balac, “Pe bai Balac yn rhoi imi lond ei dŷ o arian ac aur, ni allaf wneud yn groes i'r hyn y bydd yr ARGLWYDD fy Nuw yn ei orchymyn.
19 Yn awr, arhoswch yma heno, er mwyn imi wybod beth arall a ddywed yr ARGLWYDD wrthyf.”
20 Daeth Duw at Balaam liw nos, a dweud wrtho, “Os yw'r dynion wedi dod i'th gyrchu, yna dos gyda hwy; ond paid â gwneud dim heblaw'r hyn a orchmynnaf iti.”
21 Cododd Balaam drannoeth, ac ar ôl cyfrwyo ei asen, aeth gyda thywysogion Moab.
22 Ond digiodd Duw wrtho am fynd, a safodd angel yr ARGLWYDD ar y ffordd i'w rwystro. Fel yr oedd yn marchogaeth ar ei asen, a'i ddau was gydag ef,