28 Yna agorodd yr ARGLWYDD enau'r asen, a pheri iddi ddweud wrth Balaam, “Beth a wneuthum iti, dy fod wedi fy nharo deirgwaith?”
29 Atebodd Balaam hi, “Fe wnaethost ffŵl ohonof. Pe bai gennyf gleddyf yn fy llaw, byddwn yn dy ladd.”
30 Yna gofynnodd yr asen i Balaam, “Onid myfi yw'r asen yr wyt wedi ei marchogaeth trwy gydol dy oes hyd heddiw? A wneuthum y fath beth â thi erioed o'r blaen?” Atebodd yntau, “Naddo.”
31 Yna agorodd yr ARGLWYDD lygaid Balaam, a phan welodd ef angel yr ARGLWYDD yn sefyll ar y ffordd, a'i gleddyf yn barod yn ei law, plygodd ei ben ac ymgrymu ar ei wyneb.
32 Dywedodd angel yr ARGLWYDD wrtho, “Pam y trewaist dy asen y teirgwaith hyn? Fe ddeuthum i'th rwystro am dy fod yn rhuthro i fynd o'm blaen,
33 ond gwelodd dy asen fi, a throi oddi wrthyf deirgwaith. Pe na bai wedi troi oddi wrthyf, buaswn wedi dy ladd di ac arbed dy asen.”
34 Dywedodd Balaam wrth angel yr ARGLWYDD, “Yr wyf wedi pechu; ni wyddwn dy fod yn sefyll ar y ffordd i'm rhwystro. Yn awr, os yw'r hyn a wneuthum yn ddrwg yn dy olwg, fe ddychwelaf adref.”