33 ond gwelodd dy asen fi, a throi oddi wrthyf deirgwaith. Pe na bai wedi troi oddi wrthyf, buaswn wedi dy ladd di ac arbed dy asen.”
34 Dywedodd Balaam wrth angel yr ARGLWYDD, “Yr wyf wedi pechu; ni wyddwn dy fod yn sefyll ar y ffordd i'm rhwystro. Yn awr, os yw'r hyn a wneuthum yn ddrwg yn dy olwg, fe ddychwelaf adref.”
35 Ond dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Balaam, “Dos gyda'r dynion; ond paid â dweud dim heblaw'r hyn a orchmynnaf iti.” Felly aeth Balaam yn ei flaen gyda thywysogion Balac.
36 Pan glywodd Balac fod Balaam yn dod, aeth allan i'w gyfarfod yn Ar yn Moab, ar y ffin bellaf ger afon Arnon.
37 Dywedodd Balac wrtho, “Onid anfonais neges atat i'th alw? Pam na ddaethost ataf? Oni allaf ddelio'n anrhydeddus â thi?”
38 Atebodd Balaam ef, “Dyma fi wedi dod atat! Yn awr, a yw'r gallu gennyf i lefaru unrhyw beth ohonof fy hun? Ni allaf lefaru ond y gair a roddodd Duw yn fy ngenau.”
39 Felly aeth Balaam gyda Balac, a chyrraedd Ciriath-husoth.