38 Atebodd Balaam ef, “Dyma fi wedi dod atat! Yn awr, a yw'r gallu gennyf i lefaru unrhyw beth ohonof fy hun? Ni allaf lefaru ond y gair a roddodd Duw yn fy ngenau.”
39 Felly aeth Balaam gyda Balac, a chyrraedd Ciriath-husoth.
40 Yna aberthodd Balac wartheg a defaid, a'u hanfon at Balaam a'r tywysogion oedd gydag ef.
41 Trannoeth aeth Balac i gyrchu Balaam i fyny i Bamoth-baal, ac oddi yno fe ganfu fod y bobl yn cyrraedd cyn belled ag y gwelai.