9 “Pwy yw'r dynion hyn sydd gyda thi?”
10 Atebodd Balaam ef, “Anfonodd Balac fab Sippor, brenin Moab, neges ataf yn dweud,
11 ‘Edrych, daeth pobl allan o'r Aifft, a chartrefu ar hyd a lled y wlad; tyrd, yn awr, a melltithia hwy imi; yna hwyrach y gallaf eu gorchfygu a'u gyrru allan.’ ”
12 Dywedodd Duw wrth Balaam, “Paid â mynd gyda hwy, na melltithio'r bobl, oherwydd y maent wedi eu bendithio.”
13 Felly cododd Balaam drannoeth, a dweud wrth dywysogion Balac, “Ewch yn ôl i'ch gwlad, oherwydd gwrthododd yr ARGLWYDD i mi ddod gyda chwi.”
14 Yna cododd tywysogion Moab a mynd at Balac a dweud, “Y mae Balaam yn gwrthod dod gyda ni.”
15 Anfonodd Balac dywysogion eilwaith, ac yr oedd y rhain yn fwy niferus ac anrhydeddus na'r lleill.