1 Ar ôl y pla dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac wrth Eleasar fab Aaron yr offeiriad,
2 “Gwnewch gyfrifiad o holl gynulliad pobl Israel yn ôl eu tylwythau, gan restru pawb yn Israel sy'n ugain oed a throsodd, ac yn abl i fynd i ryfel.”
3 Felly dywedodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrth y bobl yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen,
4 am restru'r rhai oedd yn ugain oed a throsodd, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Dyma'r Israeliaid a ddaeth allan o wlad yr Aifft:
5 Reuben, cyntafanedig Israel; meibion Reuben: o Hanoch, teulu'r Hanochiaid; o Palu, teulu'r Paluiaid;
6 o Hesron, teulu'r Hesroniaid; o Carmi, teulu'r Carmiaid.