1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2 “Gorchymyn i bobl Israel a dywed wrthynt, ‘Gofalwch offrymu i mi ar yr adeg benodedig fy rhodd o fwyd ar gyfer fy offrymau trwy dân a'm harogl peraidd.’
3 Dywed wrthynt, ‘Dyma'r offrwm yr ydych i'w offrymu trwy dân i'r ARGLWYDD: dau oen blwydd di-nam yn boethoffrwm rheolaidd bob dydd,
4 un oen i'w offrymu yn y bore, a'r llall yn yr hwyr;