12 hefyd, tair degfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm ar gyfer pob bustach; dwy ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm ar gyfer yr hwrdd;
13 a degfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm ar gyfer pob oen; bydd y poethoffrwm yn arogl peraidd, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.
14 Bydd hanner hin o win yn ddiodoffrwm ar gyfer bustach, traean hin ar gyfer hwrdd, a chwarter hin ar gyfer oen. Dyna fydd y poethoffrwm bob mis trwy gydol y flwyddyn.
15 Hefyd, un bwch gafr yn aberth dros bechod i'r ARGLWYDD; bydd hwn yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd a'i ddiodoffrwm.
16 “Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf bydd Pasg yr ARGLWYDD.
17 Ar y pymthegfed dydd o'r mis hwn bydd gŵyl, ac am saith diwrnod bwyteir bara croyw.
18 Ar y dydd cyntaf bydd cymanfa sanctaidd; peidiwch â gwneud dim gwaith arferol,