19 ond cyflwynwch offrwm trwy dân yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD, sef dau fustach ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd; gofalwch eu bod yn ddi-nam;
20 hefyd, eu bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew; offrymwch dair degfed ran ar gyfer bustach, dwy ddegfed ran ar gyfer hwrdd,
21 a degfed ran ar gyfer pob un o'r saith oen;
22 hefyd, un bwch gafr yn aberth dros bechod, i wneud cymod drosoch.
23 Offrymwch y rhain yn ychwanegol at boethoffrwm y bore, sy'n boethoffrwm rheolaidd.
24 Fel hyn yr ydych i offrymu'r bwyd sy'n offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, bob dydd am saith diwrnod; offrymer ef yn ychwanegol at y poethoffrwm rheolaidd a'i ddiodoffrwm.
25 Ar y seithfed dydd yr ydych i gynnal cymanfa sanctaidd; peidiwch â gwneud dim gwaith arferol.